Ebbsfleet 1–1 Casnewydd

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Ebbsfleet a Chasnewydd ar Ffordd Stonebridge yn Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn .

Sgoriodd Lee Minshull i Gasnewydd funud cyn yr egwyl ond unionodd Liam Enver-Marum i’r tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner. Cafodd Andy Sandell gyfle gwych i adfer mantais Casnewydd ac i ennill y gêm yn hwyr ond cafodd ei gic o’r smotyn ei harbed.

Aeth Casnewydd ar y blaen yn hwyr yn yr hanner cyntaf pan beniodd Lee Minshull groesiad Scott Donnelly i gefn y rhwyd.

Ond yna, wedi deg munud o’r ail gyfnod fe groesodd Ashley Carrew i Marum yn y cwrt cosbi ac unionodd yntau’r sgôr.

Daeth cyfle euraidd i Sandell o’r smotyn wedi tri munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm yn dilyn trosedd Phill Walsh ar Robbie Willmott, ond cafodd y gic osod ei harbed gan Preston Edwards rhwng y pyst i Ebbsfleet.

Mae’r pwynt yn cadw Casnewydd yn bedwerydd yn nhabl y Blue Square ond mae tîm Justin Edinburgh yn colli cyfle i godi’n gyfartal ar bwyntiau gyda Wrecsam, Kiddermisnter a Mansfield ar y brig.

.

Ebbsfleet

Tîm: Edwards, Walsh, Lorraine, Phipp, Gwillim, Marum (Azeez 88′), Barrett, Bellamy, Carew, Elder, Godden

Gôl: Marum 55’

Melyn: Lorraine 58’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn, Donnelly (Thomson 80′), Jolley (Willmott 79′), Griffiths (O’Connor 65′)

Gôl: Minshull 44’

Cardiau Melyn: James 25’, Flynn 54’

.

Torf: 808