West Brom 2–1 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe yn yr Hawthorns brynhawn Sadwrn a hynny ar ôl iddynt fod ar y blaen yn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn West Brom.
Rhoddodd Luke Moore fantais i’r Elyrch wedi ychydig dros hanner awr ond tarodd Romelu Lukaku yn ôl i’r tîm cartref cyn i gôl Jonathan De Guzman i’w rwyd ei hun ar yr awr gyflwyno’r tri phwynt i’r Baggies.
Aeth Abertawe ar y blaen diolch i beniad deheuig Moore o gic gornel De Guzman ond roedd West Brom yn gyfartal cyn yr egwyl wedi i Lukaku rwydo croesiad isel postyn agosaf Graham Dorrans.
Y tîm cartref oedd y tîm gorau wedi’r egwyl a chafodd Lukaku gyfle gwych i roi ei dîm ar y blaen o’r smotyn pan loriodd Wayne Routledge James Morrison yn y cwrt cosbi ond arbedodd Michel Vorm y cynnig gwan.
Ond fe aeth West Brom ar y blaen yn fuan wedi hynny pryn bynnag diolch i gôl anffodus De Guzman i’w rwyd ei hun. Cliriodd Pablo Hernandez beniad Gareth McAuley oddi ar y llinell ond peniodd hi’n syth at gefn De Guzman ac adlamodd y bêl i’r gôl.
Fe fyddai Abertawe wedi cipio pwynt serch hynny oni bai am benderfyniad gwael iawn gan y dyfarnwr. Penderfynodd y dyn yn y canol fod Roland Lamah yn camsefyll pan sgoriodd er mai oddi ar chwaraewr West Brom yr adlamodd y bêl i’w lwybr.
Penderfyniad gwarthus felly a phenderfyniad sy’n golygu fod West Brom yn dringo dros ben yr Elyrch yn y tabl wrth i Abertawe ddisgyn i’r nawfed safle.
.
West Brom
Tîm: Foster, Olsson, Ridgewell, McAuley, Jones, Yacob, Morrison (Thomas 87′), Brunt, Dorrans (Fortune 87′), Mulumbu, Lukaku (Odemwingie 80′)
Goliau: Lukaku 40’, De Guzman [g.e.h.] 61’
Melyn: Jones 41’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Williams, Monk, Rangel, Davies, Michu, Pablo (Lamah 68′), Routledge (Shechter 76′), De Guzman, Ki Sung-Yeung, Moore (Dyer 60′)
Gôl: Moore 33’
Cerdyn Melyn: Dyer 88’
.
Torf: 24,832