Michael Laudrup
Mae Michael Laudrup, rheolwr yr Elyrch, wedi arwyddo cytundeb i aros am flwyddyn arall gyda’r clwb.
Mae ei benderfyniad i arwyddo’r cytundeb yn golygu y bydd yn aros gydag Abertawe hyd nes 2015.
Yn ei dymor cyntaf gyda’r Elyrch mae ei dîm wedi ennill y Cwpan Capital One ac yn perfformio’n dda yn y gynghrair gan hawlio lle anrhydeddus yn hanner uwch y tabl.
Roedd cefnogwyr y tîm wedi bod yn pryderu byddai Laudrup wedi cael ei ddenu gan dimau mawr a chyfoethog fel Real Madrid, Chelsea neu Manchester City. Mewn pôl piniwn diweddar, roedd 72 o gefnogwyr Real Madrid am weld Laudrup yn olynu Jose Mourinho yn y Bernabeu.
Ond mae Laudrup yn dweud ei fod yn awyddus i gario mlaen gyda’r gwaith da sy’n cael ei wneud yn Abertawe.
“Rydym wedi dechrau rhywbeth y tymor hwn dwi’n awyddus i’w barhau,” meddai.
“Dwi’n gwybod fod llawer o ddyfalu wedi bod am fy nyfodol ond dwi bob amser wedi dweud fy mod i’n hapus yma a doedd gen i ddim amheuaeth y byddwn i’n aros.
“Dwi’n falch iawn i lofnodi cytundeb newydd a dwi’n edrych ymlaen yn barod at y tymor nesaf.
“Dwi’n gobeithio y bydd llawer o bethau diddorol yn digwydd gyda’r tîm a gyda’r clwb yn Ewrop.”
Mae Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wrth ei fodd fod Laudrup am aros gyda’r Elyrch.
“Mae’n hwb mawr i bawb sy’n rhan o’r clwb,” meddai.
Dywedodd ei bod hi’n bleser cydweithio â Michael Laudrup gan ei fod yn rhannu’r un athroniaeth â phawb arall yn y clwb.