Leigh Halfpenny
Gyda Chymru yn herio’r Alban ym Murrayfield y prynhawn ma ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, wedi dweud fod tîm rygbi Cymru wedi wynebu’r gystadleuaeth gyda’r penderfyniad i berfformio’n dda er mwyn eu hunain yn ogystal â’u gwlad ar ôl siom gemau’r Hydref a’r gemau yn Awstralia.

Mae hefyd wedi datgelu fod ei fam yn ei chael hi’n anodd gwylio ei gampau ar y cae. “Mae’n cuddio ei wyneb y tu ôl i’w dwylo,” meddai. “All hi ddim gwylio o gwbl.”

Mae Halfpenny wedi bod yn cicio’n wych yn ddiweddar ac mae wedi sgorio 184 o bwyntiau mewn 15 gêm ryngwladol.

Ond mae hefyd yn dweud ei fod yn mwynhau taclo. “Dwi’n ei weld yn sialens,” meddai.

Dywed fod tîm Cymru yn awyddus i ymosod mwy heddiw. “Rydym i gyd am gael y bêl yn ein dwylo ac am sgorio ceisiadau – does dim gwell teimlad na hynny,” meddai.