Gyda Phort Talbot yn y pumed safle a Chaerfyrddin yn chweched, fe allai canlyniad y gêm heno brofi’n drobwynt yn ail rhan y tymor.

‘‘Mae’n gêm enfawr i’r ddau dîm, os byddwn ni’n ennill, byddwn ni’n mynd yn naw pwynt yn glir ohonynt.  Os bydd Caerfyrddin yn ennill, byddant o fewn tair pwynt i ni, sy’n ei gwneud yn stori hollol wahanol’’ meddai Scott Young, rheolwr Port Talbot.

Mae yna hwb i Bort Talbot gyda’r chwaraewr Cortez Belle wedi dychwelyd yn ôl i ymarfer ar ôl iddo orffwys am fis oherwydd anaf.