Mae rheolwr Llanelli, Bob Jeffrey yn credu mai dim ond naw pwynt sydd ei angen ar y cochion i osgoi cwympo o’r gynghrair.
Pe bai Llanelli yn gorffen yn y seithfed safle, fe fyddant yn gymwys i gystadlu yng nghynghrair Europa.
Ar hyn o bryd mae Llanelli yn bedwerydd o’r gwaelod ar ôl tymor eithaf cythryblus ar ac oddi ar y cae.
‘‘Dylai naw o bwyntiau fod yn ddigon i ni. Os edrychwn ni ar y gemau yr ydym wedi colli eleni, dim ond gôl o wahaniaeth sydd ynddi,’’ meddai Jeffrey.
Nid oes gan Lanelli unrhyw bryderon am anafiadau hyd yn hyn wrth iddynt baratoi i wynebu Bala.
‘‘Ar bapur, Bala yw’r tîm cryfaf yn hanner gwaelod y gynghrair, gyda’r gyllideb sydd ganddynt a’r chwaraewyr y maent wedi ei arwyddo,’’ ychwanegodd Jeffrey.