Andy Morrell
Mae chwaraewr-reolwr Wrecsam, Andy Morrell yn credu y gall Dartford fod yn dîm anodd i’w curo. Mae’r Dreigiau yn teithio i chwarae Dartford ar rediad o 13 o gemau heb golli ac ar frig y gynghrair Blue Square.
Yn yr 11fed, mae Dartford yn newydd i’r gynghrair gyda record dda yn chwarae gartref.
‘‘Maen nhw wedi gwneud yn dda y tymor hwn ac mae rhai chwaraewyr dawnus ganddynt. Fe gawsom gêm gyfartal yn ei herbyn yn Wrecsam ac fe wnaethant argraff dda arnaf,’’ meddai Morrell.
Bydd yr un garfan gyda Wrecsam a wnaeth drechu Ebbsfleet 4-1 nos Fawrth. Mae y chwaraewr canol cae Jay Harris wedi ei wahardd ac mae’r amddiffynnwr Martin Riley heb wella o’i anaf.
‘‘Fe wnaethom chwarae yn dda yn fuddugoliaeth yn erbyn Ebbsfleet, yn arbennig felly yn yr hanner gyntaf gan sgorio goliau da gan greu sawl cyfle arall,’’ ychwanegodd Morrell.
Bydd hyder y tîm yn uchel ar y funud o gofio ei bod ar y brig a hefyd ymddangosiad yn Wembley i ddod ond yn ôl Morrell,
‘‘Mae’n rhaid canolbwyntio hyd ddiwedd y tymor a chymryd un gêm ar y tro. Mae’n bwysig ein bod yn cadw y safon uchel yr ydym wedi ei osod i ni ein hunain,’’ dywedodd Morrell.
‘‘Mae Wrecsam yn dîm da ond bydd yn rhaid i ni fynd amdani heno a rhoi perfformiad da i’n cefnogwyr a hynny o flaen y camerau teledu,’’ meddai Tony Burnam, rheolwr Dartford.