Mae rheolwr Abertawe yn credu y bydd yna gêm galed yng nghanolbarth Lloegr wrth iddyn nhw deithio i West Bromwich Albion brynhawn fory.
Aiff y Swans i’r Hawthorns yn bur hyderus ar ôl curo Newcastle ddydd Sadwrn diwethaf a llwyddo i gael 40 o bwyntiau – yr un nifer â West Brom.
Yr oedd rhai yn meddwl y byddai tîm Steve Clarke yn ei chael yn anodd i ymdopi â bywyd yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond maen nhw wedi profi fel arall.
‘‘Mae nhw wedi gwneud yn dda iawn y tymor hwn, yn arbennig yn eu gemau cartref,” meddai Michael Laudrup. “Mae ganddyn nhw lawer o dalent a chyflymdra yn arbennig gyda chwaraewr fel Romelu Lukaku. Bydd yn rhaid i ni fynd yno gan chwarae gêm ein hunain a gobeithio cael canlyniad da.’’
Yn gynharach yn y tymor llwyddodd y Swans i guro’r Baggies 3-1 gyda Nathan Dyer, Pablo Hernandez a Wayne Routledge ar eu gorau.
‘‘Yr oeddem yn ardderchog yn ystod yr hanner cyntaf, gyda chyffyrddiadau arbennig a llwyddom i sgorio tair gôl dda,’’ ychwanegodd Laudrup.