Mae Alex Ferguson wedi mynnu na fydd Man U yn gwerthu Wayne Rooney.

Cafodd yr ymosodwr ei sodro ar y fainc ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Real Madrid nos Fawrth, gan ddod i’r cae ar ganol yr ail hanner a methu cyfle hawdd i sogrio gyda foli yn syth o flaen y gôl.

Ond ymysg storom o straeon yn awgrymu bod dyddiau Rooney yn Old Trafford ar ben, mae Ferguson wedi rhoi ei air y bydd yr ymosodwr yn parhau i wysgo crys y clwb y tymor nesaf.

“Nid oes unrhyw broblem rhyngdda i a Wayne Rooney. Mae awgrymu nad ydan ni’n siarad yn nonsens.”

Yn ôl Ferguson roedd Rooney wedi derbyn mai penderfyniad tactegol oedd ei adael ar y fainc yn erbyn Madrid.