Abertawe 5–0 Bradford

Cododd Abertawe Gwpan y Gynghrair yn dilyn perfformiad pum seren yn erbyn Bradford yn y rownd derfynol yn Wembley brynhawn Sul.

Sgoriodd Nathan Dyer a Jonathan De Guzman ddwy yr un a chyfrannodd y prif sgoriwr, Miguel Michu, un arall mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y tîm o Adran 2.

Roedd hi’n dipyn o gamp i Bradford gyrraedd y rownd derfynol ond roedd hi’n ddiwrnod pwysig iawn i’r Elyrch hefyd a hynny yng nghanfed tymor y clwb. Dim ond un tîm oedd ynddi o’r dechrau i’r diwedd a dangosodd hynny yn y goliau.

1-0, Nathan Dyer (16 munud)

Tasg syml oedd hi i Dyer rwydo’r gyntaf wedi i gôl-geidwad Bradford, Matt Duke, wyro’r bêl yn syth i’w lwybr wrth arbed cynnig da Michu o ochr y cwrt cosbi.

2-0, Miguel Michu (40 munud)

Michu ei hunan a gafodd yr ail toc cyn yr egwyl wrth anelu’r bêl yn gywir gyda’i droed chwith trwy goesau’r amddiffynnwr a heibio i Duke wedi Pablo Hernandez ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

3-0, Nathan Dyer (47 munud)

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel yn fuan wedi’r egwyl pan rwydodd Dyer ei ail ef a thrydedd ei dîm yn dilyn gwaith da ar yr asgell gan Wayne Routledge.

4-0, Jonathan De Guzman (59 munud)

Torrodd De Guzman yn rhydd yn y cwrt cosbi toc cyn yr awr a chael ei lorio wrth geisio mynd o gwmpas y golwr. Gwelodd Duke y cerdyn coch ac ar ôl ffrae fach gyda Dyer ynglŷn â phwy oedd i gymryd y gig, sgoriodd De Guzman yn erbyn yr eilydd rhwng y pyst, Jon McLaughlin.

5-0, Jonathan De Guzman (90 munud)

Yna, cwblhaodd De Guzman y sgorio yn yr eiliadau olaf yn dilyn symudiad slic arall gan yr Elyrch.

Codi’r Cwpan

Cododd capten y tîm, Ashley Williams, a chapten y clwb, Garry Monk, y cwpan gyda’i gilydd i goroni degawd o ddatblygiad anhygoel i’r tîm o Gymru, ac i ddathlu eu canmlwyddiant mewn steil.

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Williams, Rangel, Davies (Tiendalli 84’), Britton, Michu, Pablo, Dyer (Lamah 77’), Routledge, De Guzman, Ki Sung-Yeung (Monk 62’)

Goliau: Dyer 16’, 47’, Michu 40’, De Guzman [c.o.s.] 59’, 90’

Cerdyn Melyn: Ki Sung-Yeung 38’

.

Bradford

Tîm: Duke, Darby, McHugh, McArdle, Good (Davies 46’), Thompson (Hines 73’), Atkinson, Jones, Doyle, Hanson, Wells (McLaughlin 57’)

Cerdyn Coch: Duke 56’

.

Torf: 82,597