Airbus 1–2 Y Seintiau Newydd
Mae’r Seintiau Newydd ddeg pwynt yn glir o Airbus ar frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl eu curo ar y Maes Awyr yng ngêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn.
Roedd goliau hanner cyntaf Ryan Fraughan ac Alex Darlington yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r ymwelwyr er i Chris Budrys dynnu un yn ôl i Airbus cyn yr egwyl.
Airbus a gafodd y gorau o ugain munud cyntaf digon di fflach cyn i Fraughan sgorio i’r Seintiau yn erbyn llif y chwarae. Curodd yr amddiffynnwr yn rhy rhwydd o lawer ar ochr dde’r cwrt cosbi cyn sgorio o ongl dynn.
Roedd hi’n ddwy saith munud yn ddiweddarach wedi i Darlington sgorio o’r smotyn ar ôl iddo gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan y gôl-geidwad, Jamie Stephens.
Roedd Airbus yn ôl yn y gêm ddau funud cyn yr egwyl pan fanteisiodd Budrys ar amddiffyn gwael i daro foli flêr heibio Paul Harrison.
Ac fe gafodd y tîm cartref gyfle da i unioni hanner ffordd trwy’r ail hanner yn dilyn mwy o amddiffyn gwael gan y Seintiau ond er i gynnig Wayne Riley guro Harrison fe ddaeth y postyn i’r adwy.
Daliodd y Seintiau eu gafael felly i sicrhau buddugoliaeth bwysig yn y ras am y teitl.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Seintiau yn gyntaf ac Airbus yn ail yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru ac mae deg pwynt bellach yn gwahanu’r ddau dîm.
.
Airbus
Tîm: Stephens, Owens, Hart, Kearney, Bolland. Field, Rule, Roddy (Jerrett 64’), Budrys (Abbott 73’), Riley, Johnson (Wade 62’)
Gôl: Budrys 43’
Cardiau Melyn: Roddy 33’, Rule 45’, Bolland 68’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Baker, K. Edwards, Seargeant, Wilde, Darlington (Finley 72’), Jones, A. Edwards (Williams 90’), Fraughan
Goliau: Fraughan 21’, Darlingotn [c.o.s.] 28’
Cardiau Melyn: Jones 58, Seargeant 90’
.
Torf: 625