Becky James yng ngemau'r Gymanwlad yn Dehli yn 2010, pryd yr enillodd fedal arian (Llun Chwaraeon Cymru)
Mae’r Gymraes Becky James yn dathlu ar ôl ennill ei hail fedal aur o fewn llai na 24 awr ym Mhencampwriaethau Beicio Trac y Byd yn Minsk, prifddinas Belarus.
Wrth ennill y gystadleuaeth keirin heddiw, mae wedi cipio ei phedwaredd medal y Pencampwriaethau – y tro cyntaf i feiciwr o Brydain gyflawni camp o’r fath mewn pencampwriaethau byd.
Llwyddodd i guro Kristina Vogel o’r Almaen yn ffeinal y sbrint ddoe, a thrwy hynny olynu Victoria Pendleton fel pencampwraig.
Er iddi golli Gemau Olympaidd Llundain oherwydd anafiadau, dywed i’r Gemau ei hysbrydoli i ddal ati a rhoi’r ysfa a’r penderfyniad iddi ennill.
Fe ddigwyddodd ei llwyddiant ddoe yr un adeg ag oedd ei chariad George North yn chwarae ei ran ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Eidal.
A Victoria Pendleton bellach wedi ymddeol mae gobeithion uchel am y Gymraes 21 oed o’r Fenni dros y blynyddoedd nesaf sy’n arwain at Gemau Olympaidd Rio.