Gainsborough (3)2–1(4) Wrecsam

Mae Wrecsam ar y ffordd i Wembley er iddynt golli yn erbyn Gainsborough yn Northolme brynhawn Sadwrn.

Er mai colli o 2-1 fu hanes y Dreigiau yn ail gymal rownd gynderfynol Tlws yr FA, roedd eu mantais o 3-1 ers y cymal cyntaf ar y Cae Ras yr wythnos ddiwethaf yn ddigon i arwain y tîm o Gymru i Wembley.

Roedd y ddwy gôl o fantais o’r cymal cyntaf yn dair hanner ffordd trwy hanner cyntaf y gêm hon diolch i Danny Wright a’i ergyd wych o ugain llath.

Tynnodd Terry Hawkridge un yn ôl i’r tîm cartref cyn yr egwyl ond roedd pethau’n edrych yn gymharol gyfforddus i’r Dreigiau o hyd.

Ond nid felly oedd pethau yn y munudau olaf wedi i Craig Nelthorpe achosi diweddglo dramatig gydag ail gôl i Gainsborough. A bu bron iddynt orfodi amser ychwanegol yn yr eiliadau olaf un ond llwyddodd Joe Clarke i glirio oddi ar y llinell i Wrecsam.

Bydd y Dreigiau yn teithio i Wembley ar ddiwedd y tymor felly am y tro cyntaf yn hanes y clwb, ac yno byddant yn wynebu un o’u prif elynion yn y gynghrair, Grimsby, wedi iddynt hwy guro Dartford o 3-0 dros ddau gymal.