Casnewydd 2–1 Telford

Cododd Casnewydd i’r trydydd safle yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Telford ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Christian Jolley a Danny Crow yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth i dîm Justin Edinburgh.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe beniodd Christian Jolley Gasnewydd ar y blaen o groesiad Lee Minshull wedi deg munud o’r ail gyfnod.

Ac roedd y canlyniad yn ddiogel chwarter awr o’r diwedd pan rwydodd Danny Pipe wedi i David Pipe ei ganfod yn y cwrt cosbi.

Roedd digon o amser ar ôl i Phill Trainer sgorio gôl gysur i’r ymwelwyr ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Gasnewydd gipio’r tri phwynt.

A gan nad oedd Grimsby a Forest Green yn chwarae yn y gynghrair heddiw mae tri phwynt yn ddigon i godi Casnewydd ddau le i’r trydydd safle yn nhabl y Gyngres.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn, Jolley (Willmott 90’), Donnelly (Griffiths 80’), Crow (Thompson 86’)

Goliau: Jolley 55’, Crow 75’

.

Telford

Tîm: Young, Valentine, Hubbins, Watson, Rose, Craney, Trainer, Smith (Graham 61’), Henry, Reid (Rodney 67’), Peniket

Gôl: Trainer 90’

Cerdyn Melyn: Trainer 17’

.

Torf: 1,761