Gateshead 0–1 Wrecsam
Cododd Wrecsam i frig tabl Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Gateshead yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead nos Fawrth.
Sgoriodd Brett Ormerod unig gôl y gêm ar yr awr ac roedd hynny ynghyd â chanlyniad Grimsby yn Braintree yn ddigon i godi’r Dreigiau i’r brig.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe beniodd y profiadol, Ormerod, Wrecsam ar y blaen wedi awr o chwarae ac roedd hynny’n ddigon i guro’r tîm o waelodion y tabl.
Mae’r fuddugoliaeth yn helpu tîm Andy Morrell i ddi sodli Grimsby ar frig y tabl wedi iddynt hwy golli o 2-0 yn Braintree. Mae’r Dreigiau serch hynny wedi chwarae un yn fwy.
.
Gateshead
Tîm: Bartlett, Curtis, Galpin (Boyle – 74’), Chandler, Gillies, Turnbull, Marwood (Clark 55’), Donaldson, Bore, Hatch, Brown
Cerdyn Melyn: Galpin 52’
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, Wright, Ashton, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Hunt (Cieslewicz 76’), Wright, Ormerod (Little 88’)
Gôl: Ormerod 60’
Cardiau Melyn: Westwood 26’, Ormerod 42’
.
Torf: 513