Caerdydd 0–2 Brighton
Mae mantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth i lawr i bum pwynt wedi i Brighton eu curo yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.
Roedd gôl hwyr ym mhob hanner yn ddigon i’r ymwelwyr, y naill i Andrea Orlandi funudau cyn yr egwyl a’r llall i Leonardo Ulloa yn eiliadau olaf y gêm.
Caerdydd oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a bu rhaid i Thomas Kuszczak fod ar ei orau yn y gôl i Brighton i’w chadw hi’n ddi sgôr. Gwnaeth ddau arbediad da i atal Craig Noone a Peter Wittingham cyn atal Craig Bellamy ar ddau achlysur.
A phan ddaeth y gôl agoriadol yny diwedd ddau funud cyn yr egwyl yr ymwelwyr gafodd hi. Gwnaeth David Lopez Moreno y gwaith caled ar yr asgell a phwy oedd yn aros yn y canol i rwydo ei groesiad ond Orlandi – cyn chwaraewr Abertawe o bawb.
Roedd Kuszczak ar dân yn yr ail hanner hefyd yn arbed cynigion Noone a Fraizer Campbell, ond yn debyg iawn i’r hanner cyntaf, fe gipiodd Brighton gôl hwyr. Ulloa oedd y sgoriwr y tro hwn, ei ergyd yn gwyro heibio David Marshall i sicrhau’r tri phwynt.
Casglodd Hull a Watford dri phwynt nos Fawrth hefyd i gwtogi mantais yr Adar Gleision ar y brig i bum pwynt.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Hudson, Turner, Connolly,Taylor, Whittingham, Gunnarsson, Noone (Conway 53’), Bellamy, Campbell (Helguson 84’), Smith
Cerdyn Melyn: A Hudson 27
.
Brighton
Tîm: Kuszczak, Bruno, Bridge, El-Abd, Upson, López, Orlandi (Dicker 70’), Hammond (Calderón 75’), Bridcutt, Buckley (Forster-Caskey 96’), Ulloa
Goliau: Orlandi 43, Ulloa 90’
Cardiau Melyn: El-Abd 23’, Bridcutt 50’,Bruno 91’
.
Torf: 23,782