Cwpan y Byd FIFA
Mae corff llywodraethol pêl-droed, FIFA, wedi cyhoeddi y bydd technoleg dyfarnu goliau yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 2014.
Mae’r dechnoleg, sy’n helpu i ddyfarnwyr benderfynu os yw’r bêl wedi croesi’r linell gôl, wedi cael ei phrofi yng nghystadleuaeth Clybiau’r Byd ym mis Rhagfyr, a nawr mae llywydd FIFA wedi addo defnyddio’r dechnoleg ym Mrasil yn 2014.
“Y bwriad yw defnyddio technoleg ddyfarnu i gynorthwyo dyfarnwyr y gemau ym mhob stadiwm yn y gystadleuaeth,” meddai FIFA.
“Mae sawl system wahanol ar y farchnad, felly mae FIFA wedi cyhoeddi cynnig i gwmnïau heddiw, gyda’r manylion technegol sydd eu hangen ar gyfer 2014.”
Bydd FIFA nawr yn derbyn ceisiadau gan gwmnïau sydd eisiau cynnig eu systemau nhw, cyn profi a phenderfynu erbyn mis Ebrill.
Systemau Hawk-Eye a GoalRef yw’r prif gystadleuwyr i ddarparu’r dechnoleg.
Mae Hawk-Eye eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gemau tenis a chriced, gan ddefnyddio nifer o gamerâu i ddyfarnu os oes gôl neu beidio. Mae system GoalRef yn defnyddio maes magnetig o amgylch y goliau a chylched electronig yn y bel i roi gwybodaeth i’r dyfarnwr o fewn eiliad.