Mae capten Cymru ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi ei ddewis ymhlith yr eilyddion ar gyfer gêm yr Eidal ddydd Sadwrn.

Mae Sam Warburton wedi gwella o’r anaf a gafodd i’w ysgwydd, ond nid oes lle iddo yn y 15 fydd yn dechrau’r gêm. Penderfynodd hyfforddwr Cymru Rob Howley gadw gyda’r un tîm a gurodd Ffrainc, gyda Ryan Jones yn gapten.

Mae Alun Wyn Jones hefyd wedi ei gynnwys ar y fainc ar ôl gwella o anaf a dderbyniodd yng nghrys Cymru ym mis Tachwedd.

Mae Lou Reed ac Aaron Shingler yn colli eu llefydd nhw ar y fainc i wneud lle ar gyfer y ddau brofiadol.

Mae hyfforddwr amddiffyn Cymru Shaun Edwards wedi dweud mai’r nod yn erbyn yr Azzurri yw ail-adrodd yr ymdrech amddiffynnol a oedd mor effeithiol yn erbyn Ffrainc.

Dyma’r 23 yn llawn:

Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar a Mike Phillips.

Blaenwyr – Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Adam Jones, Andrew Coombs, Ian Evans, Ryan Jones (Capten), Justin Tipuric a Toby Faletau.

Eilyddion – Ken Owens, Paul James, Craig Mitchell, Lou Reed, Aaron Shingler, Lloyd Williams, James Hook a Scott Williams.