Lerpwl 5–0 Abertawe

Cafodd eu cyn reolwr, Brendan Rogers, y gorau o Abertawe yn Anfield brynhawn Sul wrth i Lerpwl eu curo’n gyfforddus yn yr Uwch Gynghrair.

Gydag un llygad ar rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Bradford yn Wembley’r penwythnos nesaf fe wnaeth Michael Laudrup saith newid i dîm Abertawe. Ac fe dalodd yr Elyrch yn ddrud am hynny wrth i’r Cochion rwydo pump mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Dim ond un tîm oedd ynddi o’r dechrau i’r diwedd ac fe fethodd Daniel Sturridge gyfle da i roi Lerpwl ar y blaen â’i ben hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Gallai Lerpwl fod wedi cael cic o’r smotyn yn fuan wedi hynny hefyd pan gafodd Sturridge ei lorio yn y cwrt cosbi ond chwaraeodd y dyfarnwr y fantais a methodd Phillippe Coutinho fanteisio.

Ond fe gafodd y tîm cartref gic o’r smotyn ddeuddeg munud cyn yr egwyl yn dilyn trosedd Kemy Agustien ar Luis Suarez, ac agorodd Steven Gerrard y sgorio o’r smotyn.

Ail Hanner

Wnaeth hi ddim cymryd llawer i Lerpwl ddyblu’r fantais wedi’r egwyl, 16 eiliad i fod yn fanwl gywir. Coutinho a Suarez yn cyfuno’n dda a Coutinho’n sgorio.

Dilynodd gôl orau’r gêm bum munud yn ddiweddarach wrth i Suarez, Sturridge a Jose Enrique gyd chwarae’n effeithiol i alluogi’r cefnwr chwith i rwydo’r drydedd.

Ymunodd y ddau flaenwr cartref yn y sgorio wedi hynny. Manteisiodd Suarez ar amddiffyn gwael Garry Monk a Kyle Bartley i sgorio’r bedwaredd cyn i Sturridge ei gwneud hi’n bump o’r smotyn yn dilyn llawiad di angen Wayne Routledge.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Lerpwl yn codi dros Abertawe yn y tabl wrth i’r Elyrch lithro i’r wythfed safle. Ond fe fydd pawb yn anghofio’r perfformiad siomedig yma os all Abertawe godi’r cwpan yr wythnos nesaf.

.

Lerpwl

Tîm: Reina, Johnson, Jose Enrique, Agger, Carragher, Gerrard, Coutinho (Henderson 60’), Downing, Lucas (Allen 72’), Suarez (Borini 78’), Sturridge

Goliau: Gerrard [c.o.s] 34’, Coutinho 46’, Jose Enrique 50’, Suarez 56’, Sturridge [c.o.s.] 71’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Bartley, Monk, Tiendalli, Davies, Britton, Pablo (Dyer 76’), De Guzman, Agustien, Lamah (Routledge 64’), Shechter (Rangel 82’)

Cerdyn Melyn: Pablo 76’

.

Torf: 44,832