Port Talbot 1–1 Bangor
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Port Talbot a Bangor yng ngêm fyw Sgorio yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Martin Rose y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond cipiodd prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru, Chris Simm, bwynt i’r ymwelwyr yn yr ail hanner wrth iddi orffen yn gyfartal.
Dechreuodd Bangor yn bwrpasol ond Port Talbot a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ar y cyfan.
Cafodd Lewis Harling gyfle da yn y cwrt cosbi wedi chwarter awr ond ergydiodd yn syth at Lee Idzi yn y gôl, ac ergyd Robbie Booth o bellter oedd cynnig gorau Bangor yn y pen arall.
Daeth y gôl agoriadol i’r tîm cartref toc wedi hanner awr o chwarae diolch i chwarae da gan David Brooks ar y chwith. Llwyddodd yr asgellwr i dynnu’r bêl yn ôl i James Bloom yn dilyn rhediad da ac er bod cynnig yr amddiffynnwr yn mynd i mewn pryn bynnag dwynodd Rose y clod gyda blaen troed ar y llinell.
Pwysodd Bangor eto wedi hynny ond bu bron i Bort Talbot wrthymosod a sgorio yn eiliadau olaf yr hannner ond cafodd Idzi y gorau o Harling eto mewn sefyllfa un ar un.
Roedd yr ymwelwyr o’r gogledd yn well yn yr ail hanner ac roeddynt yn haeddu unioni wedi deg munud diolch i bedwaredd gôl ar bymtheg Simm yn y gynghrair y tymor hwn. Peniodd Dave Morley groesiad Ryan Edwards i gyfeiriad y gôl ac ymatebodd Simm yn gynt na neb i rwydo.
Ychydig o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm wedi hynny ond bu bron i Garry O’Toole sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf ers dod i’r cae fel eilydd saith munud o’r diwedd ond llwyddodd Steven Hall i arbed.
Fe wnaeth O’Toole guro Hall funud o’r diwedd wedi i Les Davies benio’r bêl i’w lwybr ond cododd y dyfarnwr cynorthwyol ei luman i atal y gôl am gamsefyll. Dim drama hwyr felly a phwynt yr un i’r ddau dîm.
Ymateb
Scott Young, rheolwr Port Talbot:
“Rydyn ni ychydig bach yn siomedig gyda gêm gyfartal. Ond mae hynny’n dangos pa mor bell yr ydyn ni wedi dod, chwarae Bangor sy’n dîm chwech uchaf ac rydyn ni’n siomedig gyda phwynt.”
“Ar ôl ein perfformiad hanner cyntaf dwi’n meddwl mai ni oedd yn haeddu ennill.”
Nev Powell, rheolwr Bangor:
“Dwi’n hapus gyda pherfformiad y tîm, yn y diwedd dwi’n meddwl ein bod ni’n llawn haeddu’r pwynt. Ond mae’n rhaid i ni ddechrau troi’r gemau cyfartal yma’n fuddugoliaethau wrth i’r tymor dynnu at ei derfyn.”
Nid yw’r gêm gyfartal yn newid llawer yn nhabl yr Uwch Gynghrair gyda Bangor yn aros yn drydydd a Phort Talbot yn bumed.
.
Port Talbot
Tîm: Hall, De Vulght (Wright 84’), Green, Surman, Bloom, Payne, Evans, Harling, Brooks, Bond (John 69’), Rose
Gôl: Bloom/Rose 32’
Cerdyn Melyn: Evans 40’
.
Bangor
Tîm: Idzi, Roberts, Brewerton, Johnston, Thomas, Booth (S. Edwards 46’), Mackin (Allen 46’), Morley, R. Edwards, Davies, Simm (O’Toole 81’)
Gôl: Simm 56’
Cardiau Melyn: Thomas 23’, Booth 37’, Morley 61’, Roberts 64’, Brewerton 67’, Davies 90’
.
Torf: 185