Caerdydd 2–1 Bristol City

Sgoriodd Fraizer Campbell ddwywaith wrth i Gaerdydd drechu Bristol City yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn i aros un pwynt ar ddeg yn glir ar frig y Bencampwriaeth.

Rhwydodd yr ymosodwr yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf ac yna toc cyn yr awr i roi mantais iach i’r tîm cartref, ac roedd hynny’n ddigon i sicrhau’r tri phwynt er gwaethaf gôl hwyr Ben Nudgent i’w rwyd ei hun.

Doedd dim dwywaith mai Caerdydd oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ond roedd cyn gôl-geidwad yr Adar Gleision, Tom Heaton, ar dân rhwng y pyst i’r ymwelwyr.

Llwyddodd i arbed cynigion Craig Noone, Craig Bellamy a Campbell yn y deugain munud agoriadol. Ond doedd dim y gall y golwr ei wneud i atal Campbell rhag taranu ergyd i gefn y rhwyd yn eiliadau olaf yr hanner yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Tommy Smith.

Daeth Liam Kelly yn agos i Bristol City gyda chynnig haerllug o bellter yn gynnar yn yr ail gyfnod ond Caerdydd a Campbell a gafodd y gôl nesaf toc cyn yr awr. Daeth Aron Gunnarsson o hyd i’r ymosodwr yn y cwrt cosbi gyda thafliad da a llwyddodd yntau i’w rheoli cyn curo Heaton i sicrhau’r tri phwynt.

Cafwyd ambell eiliad anghyfforddus tuag at y diwedd wedi i Ben Nudgent droi’r bêl i’w rwyd ei hun ond roedd Caerdydd wedi gwneud digon i’w hennill hi erbyn hynny.

Mae’r fuddugoliaeth yn adfer un pwynt ar ddeg o fantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth tan i Hull chwarae’n hwyrach pryn bynnag.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Hudson, Connolly, Nugent, Whittingham, Noone (Kim Bo-Kyung 84’), Gunnarsson, Smith (Cowie 64’), Campbell (Helguson 72’), Bellamy

Goliau: Campbell 45’, 58’

.

Bristol City

Tîm: Heaton, Foster, Fontaine, Nyatanga, Moloney, Kelly (Kilkenny 80), Pearson (Howard 80’), Anderson (Adomah 64’), Elliott, Stead, Davies

Gôl: Nudgent [g.e.h.] 90’

Cerdyn Melyn: Fontaine 48’

.

Torf: 25,586