Wrecsam 3–1 Gainsborough
Mae Wrecsam hanner ffordd i Wembley ar ôl curo Gainsborough yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Tlws yr FA ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Danny Wright y Dreigiau ar y blaen cyn i Darryn Stamp unioni i’r ymwelwyr cyn yr egwyl. Adferodd Adrian Cieslewicz fantais Wrecsam hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Neil Ashton ychwanegu trydedd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Hanner Cyntaf
Wrecsam oedd y tîm gorau yn y munudau agoriadol ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi ychydig llai nag ugain munud. Ergydiodd Brett Ormerod o ugain llath, methodd Jan Budtz ei dal hi , disgynnodd yn syth i lwybr Wright a rhwydodd yntau.
Doedd gôl-geidwad yr ymwelwyr ddim yn edrych yn awdurdodol iawn a gydag yntau yn nhir neb ar ochr y cwrt cosbi cafodd Wright gyfle da i benio ail i Wrecsam ond clirwyd ei ymdrech oddi ar y llinell.
Cafodd Wright gyfle da arall hefyd ac felly hefyd Robert Ogleby ond roedd y ddau yn wastraffus wrth i Wrecsam fethu â manteisio ar eu goruchafiaeth gynnar.
A bu rhaid iddynt dalu’n ddrud am hynny wedi 27 munud pan unionodd Stamp y sgôr gyda pheniad yn y cwrt chwech.
Roedd Stamp yn fygythiad cyson yn yr awyr a chafodd ddau gyfle da arall wrth i Gainsborough orffen yr hanner cyntaf yn gryf.
Ail Hanner
Stori debyg oedd hi ar ddechrau’r ail gyfnod, Wright yn dod yn agos i Wrecsam yn un pen a Stamp yn penio dros y trawst yn y pen arall.
Roedd angen ychydig bach mwy o sbarc ar y Dreigiau ac fe ddaeth hwnnw ar ffurf yr eilydd, Adrian Cieslewicz, a ddaeth i’r cae toc wedi’r awr. Pedwar munud yn unig gymerodd hi iddo fanteisio ar gamgymeriad yn amddiffyn Gainsborough cyn torri i mewn i’r cwrt cosbi o’r asgell dde ac ergydio ar draws y gôl i gornel isaf y rhwyd.
Bu bron i’r Pwyliad ychwanegu ei ail ef a thrydedd ei dîm bum munud yn ddiweddarach ond peniodd groesiad Ashton dros y trawst.
Roedd esgidiau ergydio Jay Harris wedi bod ar goll trwy’r rhan fwyaf o’r gêm ond daeth yn agos iawn gydag ergyd isel o ochr y cwrt cosbi ddeg munud o’r diwedd ond cafodd ei chlirio oddi ar y llinell.
Daeth Cieslewicz yn agos eto yn dilyn rhediad unigol da ond fe ddaeth y drydedd gôl o’r diwedd i’r Dreigiau yn yr amser a ganiateir am anafiadau.
Cafodd cynnig Andy Morrell ei arbed gan Budtz ond sgoriodd Ashton ar yr ail gynnig gyda foli o chwe llath. Gôl bwysig sy’n rhoi dwy gôl o fantais i’r Cymry cyn yr ail gymal yn Northolme yr wythnos nesaf.
Ymateb
Andy Morrell, chwaraewr reolwr Wrecsam:
“Roedd hi’n gêm galed a dim ond hanner y gwaith oedd heddiw. Mae gennym gêm bwysig yn y gynghrair yn erbyn Gateshead ganol wythnos felly bydd rhaid i ni anghofio am y Tlws am nawr ond mae’n braf cael un droed yno.”
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, Walker, Westwood, Riley, Ashton, Harris, Keates (Little 79’), Clarke, Ormerod (Morrell 84’), Wright, Ogleby (Cieslewicz 61’)
Goliau: Wright 19’, Cieslewicz 65’, Ashton 90’
.
Gainsborough
Tîm: Budtz, Roma, Wilde, Waterfall, Hone, Leary (Clarke 76’), Russel, Nelthorpe (Barraclough 70’), Yates, Hawkridge, Stamp (Thompson 89’)
Gôl: Stamp 27’