Brendan Rodgers
Am y trydydd tro y tymor yma, fe fydd Abertawe’n wynebu eu hen reolwr, wrth deithio i Anfield ddydd Sul.

Mae Abertawe eisoes wedi curo Lerpwl, tîm eu cyn reolwr Brendan Rodgers, yng Nghwpan Capital One ac wedi cael geam gyfartal yn yr Uwch Gynghrair yn Stadiwm Liberty.

Ond ar ôl i’r Cochion golli o 2-0 yn erbyn West Brom, mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, yn disgwyl perfformiad cadarn gan Lerpwl ddydd Sul.

‘‘Mae’n golygu bydd chwaraewyr Lerpwl yn fwy brwdfrydig i geisio cipio’r fuddugoliaeth,’’ meddai Laudrup.

Yn ôl o Dubai

Mae’r Elyrch yn ôl yn y wlad bellach, wedi treulio pedwar diwrnod mewn gwersyll hyfforddi yn Dubai.

Ond fe fyddan nhw heb yr amddiffynnwr Chico Flores ar ôl iddo gael ei gludo o’r cae oherwydd anaf i’w bigwrn ym muddugoliaeth Abertawe dros QPR yr wythnos ddiwethaf.

Er hynny, mae’n bosib y bydd y chwaraewr canol cae bach, Leon Britton, ar gael.