Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi dweud ei fod ar fin dechrau trafodaethau i ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb.
Mae’r Cadeirydd Huw Jenkins yn awyddus i gadw Laudrup fel rheolwr. Daw ei gytundeb presennol i ben haf nesaf.
Mae’r Elyrch yn mwynhau tymor ardderchog o dan ei reolaeth.
Fe ddaeth Laudrup yn rheolwr ar Abertawe ym mis Mehefin.