Mae dau o dimau mwyaf Ewrop yn cwrdd heno yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Mae Real Madrid a Manchester United yn mynd ben-ben yn Stadiwm Santiago Bernabeu yng nghymal cyntaf yr 16 olaf, gyda’r tîm ar frig yr uwchgynghrair yn Lloegr yn chwarae Pencampwyr La Liga y llynedd.
Bydd Cristiano Ronaldo yn wynebu ei hen dîm, ac mae rheolwr Manchester United, Syr Alex Ferguson wedi bod yn llawn canmoliaeth i’w gyn-ddisgybl.
“Mae Cristiano yn well chwaraewr nawr nag oedd o’n gadael Manceinion,” meddai.
“Roedd o dal yn ddyn ifanc pan adawodd o ac mae wedi aeddfedu ym Madrid,” meddai Ferguson, a fydd yn dechrau ei 1,482fed gêm fel rheolwr y Diawled Cochion heno.
“Mae ganddo ffitrwydd, cyflymder a goliau, a dydy o byth yn cael anaf. Mae’n hynny’n unigryw yn y gêm fodern.”
Ond er hyn, mae’r Sgotyn yn credu fod ei dîm yn ddigon da i guro Real yn eu cartref.
“Mae gan ein tîm ni’r gallu i ennill y gystadleuaeth, mae morâl da o fewn y grŵp. A dydyn nhw ddim yn derbyn colli, ac mae hynna’n nodwedd wych,” meddai Ferguson.
Casillas wedi ei anafu
Bydd dynion Jose Mourinho heb eu gôl-geidwad, Iker Casillas ar gyfer gêm heno oherwydd anaf i’w law, ond mae disgwyl i Xabi Alonso, Mesut Özil a Sami Khedira ddychwelyd i’r tîm.
Dydy’r canolwr Paul Scholes heb deithio i Fadrid oherwydd anaf, ond gall Rio Ferdinand a Michael Carrick ennill eu lle yn nhîm Man U er mwyn ceisio delio â bygythiad Cristiano Ronaldo.
Bydd y gêm yn dechrau am 7.45 heno, ein hamser ni.