Mae James Harris, cyn fowliwr cyflym Morgannwg, wedi ei gynnwys yng ngharfan Lloegr a fydd yn wynebu Seland Newydd mewn cyfres o dair gêm 50 pelawd rhwng 17-23 o Chwefror.
Gadawodd Harris Morgannwg ar ddiwedd yr haf er mwyn ymuno â Middlesex.
Dywedodd Geoff Miller, sy’n un o’r dewiswyr, bod Harris wedi gweithio’n galed ar ei gêm yn ystod y gaeaf.