Er mwyn codi ymwybyddiaeth o iselder, mae pob cricedwr proffesiynol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hannog i gwblhau cyfres o sesiynau ar-lein.
Cafodd y sesiynau eu creu gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol a’u bwriad yw helpu chwaraewyr ganfod arwyddion iselder ac i gael yr hyder i ofyn am unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt.
Bydd llawer o sêr Lloegr sydd wedi dioddef o iselder, gan gynnwys Marcus Trescothick, yn cyflwyno darnau yn y fideo.
Bydd y fideo yn cael ei lansio ar ddiwedd y tymor wrth i’r chwaraewyr addasu i fywyd tu allan i fyd criced oddi wrth eu clybiau Sir.
‘‘Mae gan griced un o’r cyfraddau hunanladdiad uchaf ym myd chwaraeon,’’ meddai Jason Ratcliffe, prif weithredwr cynorthwyol Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.
‘Rhannu profiadau’
Yn 2001, roedd astudiaeth yn dangos bod cricedwyr Lloegr bron ddwywaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad na’r dyn cyffredin. Yn ogystal mae gan griced y gyfradd hunanladdiad uchaf nag unrhyw chwaraewr o unrhyw chwaraeon eraill.
Hefyd yn y fideo, bydd Mike Yardy, oedd wedi dychwelyd adref o daith Lloegr oherwydd iselder, a Tim Ambrose sydd wedi dioddef o iselder am gyfnod hir, yn rhannu eu profiadau o iselder.
Ar ôl ymddeol o’i gamp, dywedodd Darren Cousins ei fod wedi ceisio cyflawni hunanladdiad yn 2011.
‘‘Ar ôl ymddeol, does dim amheuaeth i mi ei chael hi’n anodd ymdopi a phob dim, roedd help gan y Gymdeithas Criced Proffesiynol yn rhan allweddol wrth helpu mi i wella,’’ dywedodd Darren Cousins.
Er nad yw’n orfodol mae’r Gymdeithas yn gobeithio y bydd yr holl chwaraewyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi ymddeol erbyn hyn, yn edrych ar y sesiynau ar-lein.