Ar ôl eu buddugoliaeth yn y belawd olaf yn erbyn Swydd Northampton, bydd Morgannwg yn teithio i Gaergaint ar gyfer eu gêm nesaf ym mhencampwriaeth siroedd y Cwpan LV lle byddan nhw’n herio Caint y bore ma’.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm yma gwrdd, nôl ym mis Medi, Morgannwg oedd yn fuddugol â wyth wiced yn weddill a Stewart Walters yn cyrraedd cant o rediadau.

Nid yw Morgannwg wedi gwneud unrhyw newidiadau ar gyfer y tîm a oedd yn fuddugol yn erbyn Swydd Northampton.