Mae cyn chwaraewr Cymru a’r Llewod Dr Jack Matthews wedi marw yn 92 oed.

Roedd Dr Matthews yn rhan o bartneriaeth ganol cae hynod o drawiadol gyda Bleddyn Williams.

Roedd y cyn chwaraewr o Gaerdydd a Chasnewydd yn feddyg ar daith y Llewod i Dde Affrica yn yr 1980au.

Derbyniodd OBE yn 2001, a chwaraeodd 17 o weithiau dros Gymru, ac roedd yn Gapten ar Gymru yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1951.  Bu hefyd yn gapten am bedwar tymor yng Nghaerdydd.

Chwaraeodd chwe gem brawf i’r Llewod yn y 50au yn Awstralia a Seland Newydd, a derbyniodd yr enw ‘Iron Man’ am ei daclo ffyrnig.

Parhaodd Dr Matthews ei gysylltiad â chwaraeon ar ôl ymddeol o rygbi.  Roedd ganddo gysylltiadau ym myd bocsio, gan ddod yn swyddog meddygol i’r Gymdeithas Focsio yng Nghymru.

‘‘Bydd ei enw yn cael ei grybwyll ymhlith y goreuon a fu yn hanes rygbi Cymru.  Roedd yn enwog am ei daclo dinistriol, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd.  Roedd ei bartneriaeth gyda Bleddyn Williams yn fythgofiadwy,’’ meddai Denis Gethin, llywydd Undeb Rygbi Cymru wrth y Western Mail.