Mae gan Glwb Criced Ynysygerwn yng Nghwm Dulais hanes a thraddodiad balch o fod yn glwb cymunedol – rhinwedd sydd wedi profi’n werthfawr yn ystod y coronafeirws.
Wedi’i sefydlu yn 1847 gan y tirfeddiannwr John Dillwyn Llewellyn ac wedi chwarae ar yr un cae ers hynny, mae’n un o glybiau criced hynaf yn ne Cymru.
Mae dau gyn-chwaraewr wedi ennill Pencampwriaeth y Siroedd – Adrian Shaw (yn 1997) a’r tirmon presennol Lawrence Williams (1969), a Llywydd y clwb yw pêl-droediwr Cymru, Ben Davies, oedd yn gricedwr addawol pan oedd e’n blentyn.
Strwythur y clwb
Mae’r clwb teuluol yn ymfalchïo yn eu gallu i gynnig criced a phêl-droed i bob oedran, yn fechgyn a merched.
Mae tri thîm criced i’r dynion, gyda’r tîm cyntaf a’r ail dîm yn cystadlu yn Uwch Gynghrair De Cymru, ac mae’r trydydd tîm yn chwarae yng Nghymdeithas Griced De Cymru (Cynghrair Griced De Cymru gynt).
Mae tri thîm ieuenctid – tîm dan 11, tîm dan 13, tîm dan 15, ac ambell dîm yn rhan o gynllun ‘All Stars’ Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ar gyfer bechgyn a merched pump a chwech oed.
Ysbryd cymunedol
Yn sgil y coronafeirws, mae holl weithgarwch y clwb wedi dod i ben, ac fe fuon nhw’n chwilio am ffyrdd o gynnal yr ysbryd cymunedol mewn cyfnod pan fo pawb ar wasgar.
O ganlyniad, mae rhai aelodau wedi mynd ati ailwampio’r cyfleusterau.
“Aeth rhai aelodau’r clwb ati ar eu liwt eu hunain i greu menter tra bo’r clwb ynghau a thra bo pobol i ffwrdd o’r gwaith â digon o amser,” meddai Howard Bowden, ysgrifennydd y clwb, wrth golwg360.
“Wnaethon ni drafod cael grwpiau ynghyd, wrth gadw pellter cymdeithasol, i wneud gwaith cynnal a chadw o gwmpas y clwb.
“Ond pan hysbysebon ni, gawson ni lot fawr o aelodau’n barod i wneud lot fawr o bethau.
“Ers hynny, aethon ni ati i adnewyddu rhan o do’r clwb, ailbaentio’r wal gefn, tacluso pridd ar bwys ein sied peiriannau ac mae un o’r aelodau wedi ailosod y tir i gyd.
“Mae rhai aelodau wedi palu’r hen flodau ger y ffin o flaen y clwb ac wedi ailblannu’r cyfan.
“Mae eraill wedi glanhau ac ailbaentio’r rheilings o flaen y clwb. Mae’r holl ymdrechion wedi bod yn rhagorol.
“Mae’n tirmon Simon Williams, ynghyd â’r tirmon arall Laurence Williams sydd ar fin ymddeol, wedi gwneud tipyn o waith ar y tir i gael y cae yn edrych yn dda.
“Cafodd Neil Davies, un arall o aelodau’r clwb, drwydded i allu gyrru peiriannau ac felly, mae e hefyd wedi gwneud tipyn o’r gwaith tir.
“Dim ond rhai o’r enwau yw’r rhain, a ddylen ni ddim enwi unigolion, ond mae nifer fawr o unigolion yn gwneud ymdrech i gadw’r clwb i fynd.
“Mae’r ymrwymiad gwych wedi fy syfrdanu.
“Rydyn ni wedi bod yn glwb clòs ers nifer o flynyddoedd, ac fe fyddai’r aelodau’n gwneud unrhyw beth dros y clwb, ac yn wirfoddol hefyd.”
Bywyd cymdeithasol o bell
Tra bod rhai yn gwneud y gwaith caib a rhaw, mae eraill yn cynnal digwyddiadau er mwyn dod â’r gymuned ynghyd o’u cartrefi.
Ymhlith y digwyddiadau mae nosweithiau cwis a rasio ceffylau dan ofal dau aelod o’r clwb, Nicholas Maggs a Craig ‘Beano’ Evans.
“Dw i’n gwybod fod y ddau wedi gweithio’n galed dros ben ar yr ochr gymdeithasol a’r hyn mae’r nosweithiau rhithwir yn ei wneud yw cadw cyswllt rhwng y bobol a’r clwb.
“Fe fu’n rhaid i ni gael cyfarfod pwyllgor dros y we hefyd, oedd yn brofiad diddorol!
“Mae’r gwarchae wedi arddangos ysbryd rhyfeddol o fewn y clwb.”
Amser anodd
Er y positifrwydd a’r ysbryd cymunedol amlwg, mae’r clwb hefyd wedi wynebu cyfnod anodd yn ddiweddar.
“Mae’r clwb yn amlwg ynghau a does dim criced erbyn diwedd yr hyn a fyddai wedi bod yn fis cynta’r tymor,” meddai Howard Bowden.
“Mae’r tîm pêl-droed, sy’n chwarae yn ail adran Cynghrair Cymru, yn chwarae ar gae yn Llandarcy, a’r ail a thrydydd timau’n chwarae ar gae yma yn Ynysygerwn.
“Mae tipyn o’r arian yna wedi’i golli, a byddai cryn dipyn o bobol yn mynd i’r clwb ar ôl gemau.
“Yn ystod yr wythnos, mae Slimming World yn cwrdd yma ddydd Mawrth, mae yna glwb moduro sy’n cwrdd yma, nosweithiau i bobol sengl nos Iau ac mae llawer o’r aelodau criced a phêl-droed yn dod yma ar benwythnosau.
“Ond mae’r cyfan wedi’i golli nawr.”
Mae’r colledion yn rhai corfforol yn ogystal ag yn rhai ariannol, yn dilyn lladrad diweddar.
“Roedd eiddo yn gorwedd yno ers wythnosau, a dydyn ni ddim wedi dod o hyd i unrhyw beth eto.
“Diflannodd e’n sydyn iawn.
“Aethon nhw â gwerth £20,000 o eiddo o’r safle, a gwerth rhyw £12,000 o garpedi ar gyfer y rhwydi newydd.
“Cawson ni grantiau i gael codi’r rhwydi newydd, gan fod yr hen rwydi ymarfer wedi dirywio.
“Roedd trelar gyda ni ddefnyddion nhw i fynd â’r eiddo wnaethon nhw ei ddwyn gyda nhw.
“Yn ffodus i ni, dyw e ddim wedi costio’n ddrud i ni oherwydd mai eiddo’r cwmni adeiladu gafodd ei ddwyn, ac roedd ganddyn nhw yswiriant.
“Efallai eu bod nhw wedi mynd â rhyw gan litr o ddiesel coch ac roedd yn rhaid talu am hynny, ond dyw hynny i gyd ddim wedi costio cymaint â bod ar gau a cholli elw’r bar.”
Dod yn ôl yn gryfach
Mae Howard Bowden yn ffyddiog y daw’r clwb yn ôl yn gryfach pan ddaw’r amser i symud ymlaen o’r coronafeirws.
“Rydyn ni’n anelu at fod yn glwb i’r gymuned gyfan,” meddai.
“Y broblem yw ein bod ni ryw dair milltir o Gastell-nedd, ac mae’r pentref ar wasgar.
“Dim ond dwy stryd sydd ar bwys y clwb, felly mae’n rhaid i bobol sy’n dod yma deithio er mwyn cyrraedd y clwb.
“Hoffen ni ddod yn glwb cymunedol go iawn ac mae llawer o bethau y gallen ni fod yn eu gwneud, ond mae’r gwarchae wedi rhoi stop ar bopeth am y tro.”
- Ers siarad â golwg360, fe fu lladrad arall yn y clwb (Mehefin 2), ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth. Mae lle i gredu bod rhywun wedi torri i mewn rhwng 3.55yb a 4.30yb, ac mae lluniau camerâu cylch-cyfyng yn dangos fan yn gyrru i gyfeiriad Resolfen. Mae drws garej wedi’i falu, a thractor a sawl peiriant torri gwair wedi’u dwyn. Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth.