Gyda chriced sirol wedi’i ohirio tan o leiaf fis Awst, mae golwg360 wedi bod yn edrych yn ôl dros rai o gemau a chymeriadau’r gorffennol, gan ddilyn trywydd y gemau y dylai Morgannwg fod wedi bod yn eu chwarae’r tymor hwn.

Carreg filltir mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Surrey sydd dan sylw y tro hwn, pan gipiodd Dean Cosker ei ganfed wiced yn y T20 Blast.

Y troellwr llaw chwith, oedd yn 38 oed ar y pryd, oedd y bowliwr cyntaf yn hanes y sir i gyrraedd y nod, ac fe wnaeth e ymuno â chriw dethol iawn o chwaraewyr.

Cefndir yr ornest

Ar drothwy’r gêm yn erbyn Surrey yng Nghaerdydd yn 2016, roedd angen dwy wiced arno fe i gyrraedd y 100.

Fe orffennodd e’r gêm gyda dwy wiced am 23 yn ei bedair pelawd – wrth ddal Zafar Ansari oddi ar ei fowlio’i hun, cyn i’r wicedwr Chris Cooke stympio Dwayne Bravo, chwaraewr amryddawn India’r Gorllewin, ar gyfer yr ail.

Enillodd Morgannwg yr ornest yn hawdd, wrth gwrso nod o ddim ond 111 mewn pymtheg pelawd, ac fe darodd Colin Ingram 73 heb fod allan oddi ar 49 o belenni, gyda’r capten Jacques Rudolph yn taro 40 heb fod allan.

Daeth cadarnhad ar ddiwedd tymor 2016 fod Dean Cosker yn rhoi’r gorau i chwarae, ac mae e bellach yn swyddog cyswllt gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.