Mae prosiect podlediad Cymraeg newydd sbon sy’n trafod y byd criced yn cael ei lansio ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw (dydd Sul, Ebrill 19).

Daniel Johnson ac Alun Rhys Chivers, dau o newyddiadurwyr cwmni Golwg, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r prosiect Pod Pedwar a Chwech, a fydd yn datblygu’n bodlediad llawn yn y pen draw – ac mae lle i gredu mai hwn yw’r unig bodlediad Cymraeg sy’n benodol ar gyfer criced.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel “yr unig le wnewch chi glywed beth sy’n digwydd rhwng Pacistan a Bangladesh yn yr un pod â Crymych yn erbyn Hwlffordd”.

Am y tro, mae’r sylfaenwyr wedi penderfynu lansio tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram ar y diwrnod y dylai tîm Morgannwg fod wedi dechrau ar eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Cyn bod gemau criced yn cael eu cynnal eto, bydd y tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys posau a chwisiau’n ymwneud â’r byd criced, yn ogystal â sawl eitem arall.

‘Cyfle ehangach’

“Dw i o hyd wedi bod â diddordeb mewn criced, ac yn gwrando ar sawl un Saesneg fel Wisden a Tailenders,” meddai Dan, oedd wedi dyfeisio’r syniad ar gyfer y podlediad.

“Wnes i gychwyn meddwl pam doedd ’na ddim un yn Gymraeg, cyn cysylltu ag Alun, rhywun o’n i’n gwybod fasa efo digon i’w ddweud am y gêm.

“Yn anffodus,’ dan ni wedi cychwyn y pod yn y flwyddyn gynta’ mewn sawl cenhedlaeth heb griced!

“Er bo ’na ddim lot o bethau wythnosol i’w trafod bellach, mae’n gyfle i siarad am eitemau ehangach rydan ni’n eu mwynhau am y bat a’r bêl.”

‘Profiad newydd’

“Pan ofynnodd Dan i fi wneud pod criced yn y Gymraeg, wnes i neidio ar y cyfle i fod yn rhan o brosiect cyffrous gyda rhywun dw i’n gwybod sydd yr un mor angerddol a brwdfrydig ag ydw i am griced,” meddai Alun.

“Fel mae Dan yn ei ddweud yn y trêl, hwn yw’r unig bodlediad lle gewch chi’r diweddara’ o gemau rhwng Pacistan a Bangladesh ar y naill law, a thîm Crymych yn erbyn Hwlffordd ar y llaw arall.

“Tra bod gorfod gohirio’r tymor criced yn destun siom ac wedi ein gorfodi ni i ail-feddwl am y pod, mae’n gyfle i ni adeiladu’r fenter bob yn dipyn cyn i ni fynd ati i ddechrau darlledu pan fydd gyda ni gemau i roi sylw iddyn nhw – pryd bynnag fydd hynny.

“Wrth i bobol droi fwyfwy at y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn o ynysu gartref, gobeithio y bydd rhywbeth ar ein tudalennau i blesio pawb, boed chi’n giamstar ar gwisys, yn ddewin wrth drin geiriau neu jyst yn hoffi trafod hynt a helynt eich tîm.”

Dolenni

Facebook / Twitter