Ar ôl i’r tymor criced gael ei ohirio yn sgil y coronafeirws, bydd golwg360 yn edrych yn ôl dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod ar rai o gemau Morgannwg o’r gorffennol.
Heddiw, yn swyddogol, oedd diwrnod cyntaf ymgyrch sirol Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd, ac fe fydden nhw wedi bod gartref yn erbyn Middlesex.
Ond gêm a gafodd ei chynnal rhwng Mehefin 12-14, 1997 sydd dan sylw yma – gêm y byddai Morgannwg yn hapus iawn i anghofio amdani.
Mae tymor 1997 bellach yn rhan o chwedloniaeth Clwb Criced Morgannwg, wrth iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Siroedd am y trydydd tro yn eu hanes. Ond mae un gêm o’r tymor hwnnw’n sefyll allan am y rhesymau anghywir.
Mehefin 14. Gerddi Sophia oedd y lleoliad, Middlesex oedd yr ymwelwyr. Sgoriodd Robert Croft 82 a’r capten Matthew Maynard 59 wrth i Forgannwg sgorio 281 yn eu batiad cyntaf, gydag Angus Fraser a Jamie Hewitt yn cipio saith wiced rhyngddyn nhw.
Ymatebodd Middlesex gyda 319, wrth i Jacques Kallis sgorio 96 a Mark Ramprakash 63, a Steve Watkin a Darren Thomas yn cipio pedair wiced yr un.
Chwalfa
Roedd y gêm yn y fantol, felly, ar ddechrau’r ail fatiad ar y trydydd diwrnod. Ond fel y bydd unrhyw gefnogwr Morgannwg yn gwybod, hawdd iawn taflu buddugoliaeth i ffwrdd – ac fe wnaeth Morgannwg hynny y diwrnod hwnnw yn y modd gwaethaf posib.
16 o belawdau’n unig barodd yr ail fatiad, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 31. Un batiwr, Tony Cottey, lwyddodd i sgorio ffigurau dwbwl (12) – dyma gyfraniadau unigol y chwaraewyr:
Steve James 2, Hugh Morris 5, Adrian Dale 2, Matthew Maynard 0, Tony Cottey 12, Robert Croft 0, Gary Butcher 0, Adrian Shaw 1, Waqar Younis 2, Darren Thomas 0 heb fod allan, Steve Watkin 7.
Cipiodd Angus Fraser bedair wiced am 17 mewn wyth pelawd, a Jamie Hewitt chwe wiced am 14 mewn wyth pelawd.
Wrth ymateb wedyn, y jôc fyddai’n cael ei hadrodd oedd fod batwyr Morgannwg eisiau gwylio gêm rygbi’r Llewod yn erbyn De Affrica ar y teledu.
Mae’n debyg fod ymateb y prif hyfforddwr Duncan Fletcher wedi bod yn allweddol i lwyddiant Morgannwg weddill y tymor. Roedd e’n gwybod pa mor dda oedd y tîm, ac fe wnaeth e eu hannog nhw i anghofio’r siom a symud ymlaen.
Y diwrnod wedyn, fe wnaethon nhw guro Middlesex mewn gêm undydd, ac fe aethon nhw yn eu blaenau wedyn i fowlio Swydd Gaerhirfryn allan am 51, wrth i Waqar Younis gipio hatric a gorffen gyda saith wiced am 25. Ac roedd gwell i ddod eto, wrth iddyn nhw fowlio Sussex allan am 54 a 67 ar gae San Helen yn Abertawe.
Os oedd angen cic lan y pen ôl i sbarduno’r tymor, y gêm ddrwg-enwog honno oedd y sbardun hwnnw ac roedd yn hen atgof erbyn y diwrnod hanesyddol hwnnw yn Taunton pan ddaeth Morgannwg â’r tlws yn ôl dros Bont Hafren.