Mae Peter Walker, y cyn-gricedwr a darlledwr criced, wedi marw’n 84 oed ar ôl cael strôc ac yn dilyn salwch hir.
Cafodd ei eni ym Mryste yn 1936 a’i fagu am gyfnod yn Ne Affrica, ac roedd yr acen i’w chlywed yn ei lais fyth ers hynny, yn enwedig yn ystod ei ddarllediadau fel sylwebydd criced i BBC Cymru.
Chwaraeodd e mewn 469 o gemau dosbarth cyntaf i Forgannwg, lle treuliodd ei yrfa gyfan rhwng 1954 a 1972, ac fe gynrychiolodd e dîm prawf Lloegr dair gwaith yn erbyn De Affrica yn 1960.
Yn chwaraewr amryddawn oedd yn batio â’i law dde ac yn bowlio â’i law chwith, sgoriodd e 17,650 o rediadau dosbarth cyntaf a chipio 834 o wicedi.
Cyrhaeddodd e’r garreg filltir o 1,000 o rediadau mewn tymor 11 o weithiau ac yn 1961, sgoriodd e 1,000 o rediadau a chipio 101 o wicedi yn yr un tymor.
Ond roedd e’r un mor adnabyddus fel maeswr agos at y wiced ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r maeswyr gorau yn hanes y sir.
Roedd e’n aelod o dîm Morgannwg gipiodd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1969.
Bywyd ar ôl ymddeol o’r cae
Ar ôl ymddeol yn 1972, fe ddaeth e’n ddarlledwr a newyddiadurwr criced uchel ei barch.
Roedd e’n flaenllaw hefyd wrth sefydlu Bwrdd Criced Cymru rhwng 1996 a 1999 ac ef oedd prif weithredwr cynta’r corff.
Chwaraeodd e ran flaenllaw hefyd yn natblygiad Canolfan Griced Genedlaethol Cymru yn Stadiwm Swalec yng Ngerddi Sophia.
Roedd yn gadeirydd ar Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol am gyfnod, ac yn Llywydd Clwb Criced Morgannwg yn 2009 a 2010 cyn ymddiswyddo yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes y clwb.
Roedd e ymhlith y cricedwyr cyntaf i gael eu derbyn i Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru, sy’n dweud ei fod e’n “chwaraewr gwych, darlledwr arbennig a bod dynol hynod o ddiymhongar”.
Teyrngedau newyddiadurwyr
Ymhlith y rhai cyntaf i dalu teyrnged iddo neithiwr (nos Sul, Ebrill 6) roedd Chris Jones, y dyn tywydd a chyflwynydd radio, a John Geraint, cyn-Bennaeth Cynhyrchu BBC Cymru.
“Hoffwn godi gwydryn a chael diod er cof am Peter Walker OBE a fu farw, yn drist iawn, neithiwr,” meddai Chris Jones ar Twitter.
“Fe wnaeth e, ynghyd â David Parry Jones, roi fy swydd gyntaf i fi, ac roedd e’n fos arna’i, yn fentor ac yn ffrind.
“Teithiais i’r byd gyda Peter a dw i’n drist iawn o glywed y newyddion.”
Dywedodd John Geraint ei fod e “mor flin” o glywed y newyddion.
“Enillodd e’r Bencampwriaeth gyda Morgannwg yn 1969 ac roedd e’n arwr i fi,” meddai.
“Gweithiais i gyda fe’n gynnar yn fy ngyrfa @BBCRadioWales.
“Darlledwr hyfryd yn llawn mewnwelediad ac yn fod dynol ffeind.
“Cofiaf yn arbennig ei deyrnged llawn mynegiant i’r paffiwr o Ferthyr Johnny Owen.”
Ychwanegodd y sylwebydd chwaraeon Marc Webber ei fod e’n “chwedlonol gyda’r bat criced a’r meicroffôn” ac yn “ysbrydoliaeth lwyr”.
“Colled a chawr” meddai teyrnged y newyddiadurwr Andy Bell, sy’n byw yn Awstralia.
“Pan o’n i’n dechrau ar ddechrau’r 80au roedd Peter bob amser mor neis wrth i fi ymbalfalu drwy gynadleddau i’r wasg. Ac am gricedwr anhygoel.”
Teyrngedau Morgannwg
Mae cadeirydd a phrif weithredwr Clwb Criced Morgannwg wedi talu teyrnged iddo.
“Mae pawb ym Morgannwg yn drist o glywed y newyddion yma,” meddai Gareth Williams, y cadeirydd.
“Roedd Peter yn un o hoelion wyth y clwb, dyn a roddodd bopeth allai i’r clwb roedd yn ei garu wrth chwarae, ac yn ddiweddarach mewn rôl oddi ar y cae.
“Fe roddodd gymaint yn ôl i’r gêm, yn enwedig drwy ei waith gyda Chriced Cymru a’r Ganolfan Griced Genedlaethol, a thrwy ei wasanaeth rhagorol yn Llywydd Morgannwg.
Mae Hugh Morris, y prif weithredwr, wedi talu teyrnged i’w ddawn fel cricedwr.
“Roedd y cyfuniad o fod yn ddaliwr o safon fyd-eang, batiwr ymosodol a throellwr cywir yn rhoi iddo fygythiad triphlyg ac yn chwaraewr amryddawn gwych,” meddai.
“Fe wnaeth e helpu Morgannwg i ennill tlws Pencampwriaeth y Siroedd ac fe gynrychiolodd e Loegr, sy’n ei wneud e’n un o fawrion gwirioneddol y clwb.
“Mae’n bosib na welwn ni chwaraewr tebyg eto, ac fe fydd pawb yn y clwb yn gweld ei eisiau.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau.”
A dywed y clwb y bydd “pawb yng Nghlwb Criced Morgannwg yn gweld eisiau Peter ac mae ein meddyliau gyda’i deulu ar adeg mor anodd.”
Teyrngedau’r byd criced
Dywed Robert Croft ei fod e’n “drist iawn o glywed am golli un o hoelion wyth Morgannwg Peter Walker”.
“Batiwr a bowliwr penigamp a daliwr agos o safon fyd-eang. Wedi’i fowlio gan Shepherd, wedi’i ddal gan Walker oedd y gri!
“Bob amser yn angerddol am Forgannwg ac yn frwdfrydig a charedig â fi.”
Dywed Mike Fatkin, cyn-Brif Weithredwr Morgannwg ei fod e “wedi ypsetio” o glywed am ei farwolaeth.
“Cricedwr a darlledwr gwych, yn amlwg, ond yn gydweithiwr agos ac yn ffrind ffyddlon pan ddechreuon ni @CricketWales ganol y 90au.
“Un o’r bobol fwya’ deallus ro’n i’n ei nabod. Yn dost dros y blynyddoedd diwethaf ond fe fyddwn ni’n gweld ei eisiau.”