Ceffyl o Gymru, Potters Corner, enillodd ras y Grand National rithwyr neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 4) – ac mae’r hyfforddwr Christian Williams o Aberogwr yn dweud ei fod yn falch o fod yn rhan o rywbeth i “godi calonnau”.
Dyma’r ceffyl ddaeth i’r brig yn Grand National Cymru yn y byd go iawn eleni.
Cafodd y ras rithwir ei chynnal ar ôl i’r ras go iawn gael ei chanslo o ganlyniad i’r coronafeirws.
Fe wnaeth cwmnïau betio addo y byddai’r holl elw’n mynd at elusennau’r Gwasanaeth Iechyd.
Caiff Potters Corner ei hyfforddi gan Christian Williams o Aberogwr, ac roedd e’n cael ei farchogaeth yn y ras hon gan Jack Tudor.
Roedd ods o 18-1 yn cael eu cynnig iddo ennill y ras.
Walk in the Mill oedd yn ail, Any Second Now yn drydydd a Tiger Roll yn bedwerydd.
Cafodd y ras ei chynnal am 5.15yp, sef amser y ras go iawn fel arfer a chafodd y darllediad byw ar ITV ei gyflwyno gan Nick Luck.
‘Braf codi calonnau’
“Rwy wrth fy modd, mae’n wych ac mae’n wych cael codi calonnau pawb yn ystod amserau anodd,” meddai Christian Williams.
“Dw i’n credu bod yna bobol o’r tu allan i rasio’n gwylio, hyd yn oed.
“Roedd yn rhywbeth i godi calonnau pobol sy’n sownd yn eu cartrefi, ac mae’n siŵr fod yna griw da yn gwylio.
“Roedd yn rhywbeth i’w wylio gyda’n gilydd a chael ychydig o dynnu coes yn y cyfnod yn arwain ati.”
Barn am y ras
“Mae Potters Corner yn aros yn dda iawn, fe enillodd e Grand National Cymru a’r Midlands Grand National ac yn Grand National Cymru, fe wnaethon nhw ei gau e i lawr tua’r diwedd hefyd, felly roedd gyda fi syniad go dda y bydden nhw’n gwneud hynny o droad yr Elbow.
“Do’n i ddim yn meddwl y bydden nhw’n gadael iddo fe fynd heibio, mae e’n aros yn dda iawn ac os yw’n cael ei wneud ar gyfrifiadur ac ystadegau, dw i’n amau y bydden nhw’n gadael i unrhyw un aros gyda fe wrth redeg tua’r diwedd.”
Beth am y Potters Corner go iawn?
Tra bod y Potters Corner cyfrifiadurol yn dathlu ei lwyddiant, beth am y Potters Corner go iawn sy’n byw yng Nghymru o hyd?
“Mae e’n gymeriad mor hamddenol,” meddai Christian Williams.
“Mae e allan yn y cae gyda dau ebol – dau ebol eitha’ gwerthfawr o Ffrainc – ac mae e’n ddylanwad hamddenol.
“Maen nhw’n ei ddefnyddio fe rywfaint fel arweinydd gan ei fod e’n geffyl mor dda a charedig.
“Dydyn ni ddim yn rhy ffôl, ac yn gweddïo bod pawb yn ddiogel.
“Gorau po gynta’ y gallwn ni fynd yn ôl i rasio, ond does dim panig.
“Os gallwn ni fod yn rasio erbyn Gorffennaf 1, gwych, ond os nad yw’n briodol, weld dyw e jyst ddim yn briodol.
“Dyw e ddim yn ein dwylo ni, a phenderfyniad y Llywodraeth fydd e.”