Byddai ennill dyrchafiad i adran gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd gyda Morgannwg yn ddiweddglo delfrydol i dymor siomedig ar lefel bersonol, yn ôl Samit Patel.
Mae’r chwaraewr amryddawn ar fenthyg o Swydd Nottingham ar gyfer gemau’r Bencampwriaeth, er ei fod e’n dal ar gael i’r Saeson mewn gemau ugain pelawd.
Fe fu’n dymor siomedig i’r chwaraewr 34 oed oherwydd mewn naw gêm pedwar diwrnod i Swydd Nottingham, roedd ganddo fe gyfartaledd o 17.20 yn unig gyda’r bat, ac roedd e wedi cipio saith wiced yn unig ar gyfartaledd o 55.86 yr un.
Pan ddaeth yr alwad gan Mark Wallace, cyfarwyddwr criced Morgannwg, fe gafodd ei ddenu gan yr her o helpu Morgannwg ac mae’n dweud bod cael gweithio gyda fe a Matthew Maynard – er nad yw’n brofiad gwahanol iawn i weithio gyda Peter Moores a Mick Newell yn Swydd Nottingham – yn “chwa o awyr iach”.
Egluro’i ymadawiad – ond canolbwyntio ar y presennol
“Fe ddaeth y trosglwyddiad oherwydd ’mod i’n cael fy ngadael allan o’r tîm ar gyfer gemau pedwar diwrnod gan Swydd Nottingham, ac fe ddaeth Wally [Mark Wallace] a Morgannwg ata’i gyda chynnig i ddod i chwarae ar fenthyg,” meddai.
“Ac fe wnes i dderbyn y cynnig hwnnw, am fod y ffaith eu bod nhw’n gallu ennill dyrchafiad yn apelio.
“Dw i eisiau chwarae i dîm all ennill dyrchafiad.”
Tra bod ei ddyfodol gyda Swydd Nottingham yn aneglur ar hyn o bryd, ac yntau heb drafod y sefyllfa gyda nhw, mae e’r un mor awyddus ag erioed i chwarae yn fformat hir y gêm.
Ac mae’n dweud bod brwydr ei dîm cartref i aros yn yr Adran Gyntaf, a brwydr Morgannwg i ennill dyrchafiad, wedi gwneud y penderfyniad i symud yn un hawdd yn y pen draw.
“Dw i’n amlwg yn ffafrio ambell fformat yn fwy na’i gilydd, a dw i’n gobeithio chwarae criced pêl goch.
“Ond y peth sy’n fy nghyffroi’n fwy na dim yw ennill dyrchafiad. Dw i ddim wedi sgwrsio ag unrhyw un [yn Swydd Nottingham] ac fe gymera i’r peth un cam ar y tro.
“Dyna lle’r ydyn ni ar hyn o bryd, ac mae gyda fi flwyddyn yn weddill o’r cytundeb gyda Swydd Nottingham.
“Dw i’n credu bod Morgannwg yn lle da iawn, a dw i’n mwynhau fy amser yma’n fawr iawn, ac mae’r bois wedi bod yn groesawgar iawn.”
Gobeithion Morgannwg a pherfformiadau Samit Patel
Fe ddechreuodd cyfnod byr Samit Patel gyda Morgannwg gyda cholled drom o fatiad a 150 o rediadau yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo-yn-Rhos.
Sgoriodd e 54 yn y batiad cyntaf, gan gipio dwy wiced, ond doedd e ddim yn gwbl hapus â’i berfformiad.
“Mae bob amser yn braf sgorio rhediadau, ond dw i ddim yn meddwl bod hanner cant yn llawer o rediadau,” meddai.
“Byddai rhywun yn amlwg yn hoffi cyrraedd tri ffigwr a chyfrannu at dîm sy’n ennill.”
Er gwaetha’r canlyniad, mae’n dal yn ffyddiog y gall Morgannwg ennill dyrchafiad, gyda gemau yn erbyn Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerlŷr, y ddwy sir ar waelod y tabl, i ddod, yn ogystal â gêm yn erbyn Durham.
“Fyddwn i ddim yn dweud ei bod yn ergyd, ond dydy hi’n amlwg ddim yn beth braf i golli.
“Fe ddaethon ni wyneb yn wyneb â thîm cryf Swydd Gaerhirfryn, oedd ag uned fowlio sy’n ddigon da i’r Adran Gyntaf.
“Mae meddwl am sut wnaeth Morgannwg chwarae yn rhoi ein sefyllfa ni mewn persbectif.
“Mae’n amlwg fod angen gwella yn y dyfodol a gobeithio y gallwn ni wneud hynny yn y gêm nesaf yng Nghaerwrangon.
“Mae gyda ni dipyn o dalent yn yr ystafell newid, ond ry’n ni’n colli Charlie [Hemphrey] sy’n dychwelyd i Brisbane, ac fe fydd e’n golled ymhlith y batwyr.
“Ond mae carfan dda gyda ni, a gobeithio y gallwn ni orffen ymhlith y tri uchaf.”