Mae Ashley Williams yn dweud bod gan Bristol City, ei glwb newydd, ddigon o allu i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor hwn.
Mae’r amddifynnwr canol wedi ymuno â’r clwb ar gytundeb byr tan ganol mis Ionawr, ac mae’n dweud ei fod e eisoes yn teimlo’n gartrefol yno.
“Mae pawb wedi fy nghroesawu i’n fawr,” meddai wrth wefan y clwb.
“Mae’r bos [Lee Johnson] wedi bod yn wych gyda fi, mae’r bois i gyd wedi fy nghroesawu yn yr ystafell newid a dw i’n falch o gael bod yma.
“O’r hyn welais i yn erbyn Derby ac wrth ymarfer – ar ôl bod yn y Bencampwriaeth am nifer o flynyddoedd ac ennill dyrchafiad gydag Abertawe – mae gan y tîm hwn ddigon yn yr ystafell newid i fynd allan a gwneud hynny.
“Mae set da o chwaraewyr, bois neis yn y lle cyntaf, a rheolwr trefnus iawn sy’n gosod allan yr wythnos yn wych.
“Y perfformiad y noson o’r blaen oedd y tro cyntaf i fi weld y bois yn perfformio, roedden nhw’n llawn brwdfrydedd ac yn dîm da iawn.
“Dw i wrth fy modd, mae’n chwa o awyr iach i fi i ddod a gweld eu brwdfrydedd.
“Mae’r criw yn ifanc a felly hefyd y staff, a dw i wedi mwynhau bob dydd.”