Fe fydd rhan o stadiwm clwb pêl-droed Rangers wedi cau pan maen nhw’n croesawu Legia Warsaw ar ôl i UEFA ddatgan bod eu cefnogwyr yn euog o “ymddygiad hiliol,” sy’n cynnwys canu sectyddol.
Bydd o leiaf 3,000 yn wag yn stadiwm yr Ibrox yn Glasgow yn ystod y gêm ragbrofol yng Nghynghrair Ewrop ddydd Iau nesaf (Awst 29).
Dywed Rangers fod y clwb yn “gofidio’n fawr” y bydd cefnogwyr dieuog ddim yn gallu mynd i’r gêm.
“Mae UEFA wedi dyfarnu bod grŵp o gefnogwyr Rangers yn euog o ymddygiad hiliol – sy’n cynnwys canu sectyddol – yn ystod y gêm yn erbyn St Joseph’s yn Ibrox ar Orffennaf 18,” meddai’r clwb mewn datganiad heddiw (dydd Gwener, Awst 23).
“Mae’r clwb wedi gofyn dro ar ôl tro i’n cefnogwyr ymatal rhag ymroi i hyn a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol.”
“Yn anffodus, mae’r rhybuddion wedi cwympo ar glustiau byddar a bydd gweithredoedd y lleiafrif hwn yn achosi’r clwb a’r mwyafrif o gefnogwyr da Rangers i dalu cosb drom.”