Mae criced dosbarth cyntaf yn dychwelyd i’r gogledd heddiw, ar ddiwrnod cyntaf gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo yn Rhos.
Mae’r sir Gymreig yn yr ail safle yn yr ail adran, ac yn herio’r tîm sydd ar y brig â mantais o 28 pwynt, ac sy’n teithio hanner y pellter sydd gan Forgannwg i’w deithio o’u pencadlys yng Nghaerdydd.
Mae disgwyl i’r chwaraewr amryddawn Samit Patel chwarae am y tro cyntaf ar ôl symud i Gymru ar fenthyg o Swydd Nottingham am gemau pedwar diwrnod.
Ac mae lle yn y garfan hefyd i’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith, sydd heb chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, a’r Awstraliad Shaun Marsh, sy’n llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan ei gydwladwr Marnus Labuschagne, sydd yn y garfan ryngwladol ar gyfer Cyfres y Lludw.
Hanes y cae yn Llandrillo yn Rhos
Wrth deithio i’r gogledd, mae Morgannwg yn manteisio ar eu harwyddair, ‘Gwneud Cymru’n Falch’.
Mae Morgannwg wedi bod yn cynnal gemau ar y cae hwn ers y 1960au, diolch yn bennaf i ddylanwad Wilf Wooller, un o fawrion y sir oedd yn hanu o’r ardal.
Ar y cae hwn yn 2000, tarodd Steve James 309 heb fod allan yn erbyn Sussex, y chwaraewr cyntaf yn hanes y sir i sgorio mwy na 300, wrth iddo adeiladu partneriaeth o 374 gyda’r Awstraliad Matthew Elliott.
Yn y gêm honno, sgoriodd Morgannwg eu cyfanswm mwyaf erioed, 718 am dair cyn cau’r batiad.
Dair blynedd cyn hynny, tarodd Steve James 162 yn erbyn Swydd Nottingham ar y cae hwn wrth i Forgannwg fynd yn eu blaenau i ennill Pencampwriaeth y Siroedd ar ddiwedd y tymor hwnnw.
Wrth i Forgannwg herio Swydd Gaerhirfryn yn 2015, sgoriodd yr ymwelwyr 698 am bump, wrth i gyn-gapten Morgannwg, Alviro Petersen sgorio 286, a’i bartner Ashwell Prince yn sgorio 261 mewn partneriaeth o 501 am y drydedd wiced.
Tarodd Michael Hogan 57 yn y batiad cyntaf i Forgannwg, wrth iddyn nhw sgorio 348, cyn cael eu bowlio allan am 193 yn yr ail fatiad wrth ganlyn ymlaen, a cholli o fatiad a 157 o rediadau.
Cafwyd gêm gyffrous rhwng Morgannwg a Sussex yn 2017, wrth i Ollie Robinson, batiwr Sussex, daro 41 oddi ar 37 o belenni wrth ddychwelyd ar ôl anaf, a’r ymwelwyr yn mynd â’r ornest o un wiced, ar ôl cyrraedd eu nod o 208 ar ôl bod yn 160 am wyth.
Sgoriodd Ian Bell 204 i Swydd Warwick y tymor diwethaf, wrth i’w dîm gael eu bowlio allan am 503. Roedd e eisoes wedi sgorio 115 a 106 yn erbyn Morgannwg yn y gêm gyfatebol yn Edgbaston.
Mynd am ddyrchafiad
Tra bod Morgannwg wedi cael ymgyrch ddiflas yn y Vitality Blast, maen nhw’n mynd am ddyrchafiad yn y Bencampwriaeth.
Yn groes i’w perfformiadau cyn mynd i’r gogledd y llynedd, pan oedden nhw wedi colli chwe gêm allan o saith, dim ond un gêm allan o ddeg maen nhw wedi ei cholli y tymor hwn, ar ôl ennill tair a’r gwedill yn gorffen yn gyfartal.
Maen nhw’n gydradd ail gyda Swydd Gaerloyw.
Gallai James Anderson, bowliwr cyflym Lloegr, chwarae i’r ymwelwyr ar ôl colli allan ar ail gêm brawf y Lludw wedi iddo gael anaf yn y prawf cyntaf. Bydd rhaid i fatwyr Morgannwg fod yn ofalus wrth i’r ‘Burnley Express’ geisio profi ei ffitrwydd ar gyfer gweddill y gyfres.
Morgannwg: N Selman, C Hemphrey, S Marsh, D Lloyd, B Root, C Cooke (capten), S Patel, G Wagg, R Smith, L Carey, M Hogan
Swydd Gaerhirfryn: A Davies, K Jennings, J Bohannon, L Livingstone, R Jones, G Maxwell, D Vilas (capten), D Lamb, Saqib Mahmood, R Gleeson, T Bailey