Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol Borja Bastón ar ôl iddo fe sgorio dwy gôl yn y fuddugoliaeth o 3-2 dros Preston yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 17).
Fe fu amheuon am ddyfodol y Sbaenwr gyda’r clwb, sy’n wynebu trafferthion ariannol ar ôl cwympo o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth, ac roedd e wedi bod 1,022 heb gôl i’r Elyrch.
Ond bellach, mae e wedi sgorio tair gôl mewn tair gêm, wrth i’r Elyrch godi i’r pedwerydd safle yn y tabl.
Manylion y gêm
Aeth Preston ar y blaen drwy Joe Rafferty ar ôl 11 munud, ond roedd y sgôr yn gyfartal ar drothwy’r egwyl wrth i’r Sbaenwr rwydo yn erbyn llif y chwarae.
Aeth yr Elyrch ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner diolch i’r eilydd George Byers, oedd wedi rhoi mwy o strwythur i’w dîm ar ôl hanner cyntaf gwael.
Roedd y sgôr yn gyfartal eto dair munud yn ddiweddarach wrth i Daniel Johnson sgorio o’r smotyn i’r ymwelwyr ar ôl i Connor Roberts lorio Sean Maguire.
Ond peniad y Sbaenwr gipiodd y triphwynt ar ôl 69 munud, sy’n golygu bod yr Elyrch wedi ennill saith pwynt allan o naw hyd yn hyn.
‘Cymeriad mawr a hoffus’
“Mae Borja yn hapus, mae e’n gymeriad mawr a hoffus yn yr ystafell newid a gallwch chi weld ei fod e’n mwynhau bywyd yn Abertawe,” meddai Steve Cooper.
“Edrychwch ar ei ddwy gôl, maen nhw’n rhagorol o ran gorffen fel rhif naw.
“Mae’r gyntaf wedi’i thorri’n ei hôl gan Connor Roberts, ac mae e’n ei rhwydo hi’n dawel, ac roedd y peniad yn gôl wych.
“Fe welson ni ddarnau o Borja ar ei orau heddiw, sef bod yn y cwrt yn sgorio goliau.
“Dyna, gobeithio, mae rhif naw yn ei wneud orau.
“Mae ganddo fe dair mewn tair nawr, mae e’n sgorio llawer o goliau wrth ymarfer ac yn gweithio’n galed.”