Mae Malcolm Nash, un o gricedwyr enwocaf Morgannwg, wedi marw’n sydyn yn 74 oed.
Mae’n cael ei gofio’n bennaf am fod y bowliwr cyntaf i ildio chwech chwech mewn pelawd, wrth i Garry Sobers gyflawni’r gamp mewn gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Nottingham yn San Helen yn Abertawe ar Awst 31, 1968.
Ond fel mae ei hunangofiant Not Only, But Also yn awgrymu, roedd llawer mwy i’w yrfa na’r belawd anffodus honno.
Parodd gyrfa’r chwaraewr amryddawn 18 o dymhorau rhwng 1966 a 1983, ac fe fu’n gapten ar y sir yn 1980 a 1981.
Tarodd ei sgôr gorau erioed, 130, yn erbyn Surrey ar yr Oval yn 1976, ac fe gipiodd ei ffigurau bowlio gorau erioed, naw am 56 yn erbyn Hampshire yn Basingstoke yn 1975.
Sgoriodd e gyfanswm o 7,129 o rediadau, gan gynnwys dau ganred, a chipio 993 o wicedi, a 148 o ddaliadau.
Roedd e hefyd yn aelod o’r garfan a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan Gillette yn Lord’s yn 1977.
Tua diwedd ei yrfa, fe chwaraeodd e i Sir Amwythig ym Mhencampwriaeth y Siroedd Llai.
Roedd yn cael ei gyfrif ymhlith y bowlwyr cyflym gorau gyda’r bêl newydd, ac fe allai wyro’r bêl y ddwy ffordd yn gelfydd iawn.
Ers iddo ymddeol, fe dreuliodd e gyfnodau’n byw a hyfforddi dramor, cyn dychwelyd i Gymru, lle byddai’n aml yn siarad a diddanu â’i hiwmor sych a direidus yng nghiniawâu Orielwyr San Helen yn Abertawe.