Mae gêm Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd wedi gorffen yn gyfartal.
Roedd gan y Saeson nod o 326 oddi ar 66 o belawdau, ond fe ddaeth y chwarae i ben am 5 o’r gloch heb fod gobaith gan y naill dîm na’r llall o ennill.
Ar ôl i Josh Dell gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Lukas Carey ar ddiwedd y bedwaredd pelawd, adeiladodd Daryl Mitchell a Callum Ferguson bartneriaeth o 135 ar gyfer yr ail wiced.
Roedden nhw’n 143 am un pan ddaeth yr ornest i ben, gyda Daryl Mitchell heb fod allan ar 64, a Callum Ferguson heb fod allan ar 70.
Mae Morgannwg yn aros ar frig yr ail adran am y tro, ond fe allai hynny newid pe bai Swydd Gaerhirfryn yn curo Durham.
Ail fatiad Morgannwg
Fe wnaeth Morgannwg gau eu hail fatiad ar 246 am bump ar y diwrnod olaf, ar ôl dechrau ar 137 am un.
Ar ôl cyrraedd ei ganred oddi ar 112 o belenni, gan gynnwys 14 pedwar, cafodd Marnus Labuschagne ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Ed Barnard oddi ar fowlio’r troellwr coes Brett D’Oliveira am 100.
Dyma’i bumed canred i Forgannwg y tymor hwn.
Yn ystod y batiad, y batiwr o Awstralia oedd y chwaraewr cyntaf o unrhyw sir i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth y tymor hwn – y chwaraewr cyntaf o Forgannwg i gyflawni’r gamp ers Jonathan Hughes ganol y degawd diwethaf.
Cafodd Nick Selman ei fowlio gan Brett D’Oliveira am 58 i adael Morgannwg yn 178 am dair, ac roedden nhw’n 182 am bedair pan gafodd y capten David Lloyd ei ddal gan y wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio Charlie Morris am 12.
Sgoriodd Dan Douthwaite 40 cyn i Ed Barnard ei daro ar ei goes, a Morgannwg yn 240 am bump, cyn cau’r batiad gyda Billy Root heb fod allan ar 25.
Roedd gan Swydd Gaerwrangon nod, felly, o 326 mewn 66 o belawdau, ond doedd ganddyn nhw fawr o fwriad o fynd amdani, wrth chwarae’n amddiffynnol ran fwya’r diwrnod olaf.
Gweddill y gêm
Mae Morgannwg wedi llwyddo i ennill pwyntiau batio llawn, ar ôl sgorio 449 yn eu batiad cyntaf, diolch yn bennaf i 106 gan Marnus Labuschagne.
Adeiladodd e bartneriaeth o 80 am y wiced gyntaf gydag Owen Morgan, cyn ychwanegu 75 am yr ail wiced gyda Nick Selman (67).
Ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 138 gyda’i gapten David Lloyd (97) am y drydedd wiced.
Islaw’r rhestr, sgoriodd Tom Cullen 51 yn y gêm olaf cyn i’r wicedwr a’r capten arferol Chris Cooke ddychwelyd ar ôl anafu ei goes.
Y seren ymhlith y bowlwyr i’r ymwelwyr oedd Brett D’Oliveira, a gipiodd saith wiced am 92.
Ymatebodd Swydd Gaerwrangon gyda sgôr batiad cyntaf o 370, er eu bod yn edrych yn debygol o orfod canlyn ymlaen ar 203 am chwech.
Ond cawson nhw eu hachub, i bob pwrpas, gan Brett D’Oliveira, a sgoriodd 103.
Roedd hanner canred hefyd i Ed Barnard (56).