Mae criced yng Nghymru’n elwa o gynnal gemau Cwpan y Byd yng Nghaerdydd, ac o gael ei llywodraethu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn ôl Mark Frost, sy’n gweithio i gorff Criced Cymru ac i Glwb Criced Morgannwg.
Daw ei sylwadau ar ôl i bedair gêm yng Nghwpan y Byd gael eu cynnal yng Nghaerdydd yn ystod y gystadleuaeth bresennol.
Ac oni bai bod Cymru a Lloegr o dan yr un ymbarél, mae’n dweud na fyddai cefnogwyr criced yng Nghymru’n cael gweld eu harwyr yn dod i Gaerdydd.
“Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn cyfeirio at 38 o siroedd a Chriced Cymru ac felly, nid yw’n amsugno Cymru fel bwrdd criced rhif 39,” meddai wrth golwg360.
“Mae bellach yn cyfeirio at Gymru ar wahân am nad yw’n un o siroedd Lloegr, felly rydyn ni’n falch iawn am hynny.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod angen criced ar y lefel uchaf yma, fel Cwpan y Byd, cystadleuaeth newydd The Hundred a chriced rhyngwladol yn gyffredinol i godi proffil criced yng Nghymru.
“Ond pe na bai Cymru’n rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, fydden ni ddim yn cael hynny.
“Fyddai gennym ni ddim tîm proffesiynol [Morgannwg] yng Nghymru.
“Dw i’n credu y bydden ni’n colli cyffro a hud a lledrith y digwyddiadau hyn, a bydden ni ar ein colled o ganlyniad i hynny.
“Ond ar yr un pryd, rydyn ni’n awyddus iawn i bwysleisio wrth yr ECB fod Cymru’n rhan bwysig ohono. Maen nhw’n gwybod hynny, am ein bod ni’n eu hatgoffa nhw’n gyson.”
Tîm criced i Gymru?
Mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg yn parhau i wrthwynebu tîm cenedlaethol i Gymru, ond mae Mark Frost yn cydnabod y gallai achlysuron fel Gemau’r Gymanwlad gynnig y cyfle i Gymru gystadlu ar ei phen ei hun.
“Mae hynny’n arbennig o wir o safbwynt gêm y merched ond fel dywedais i, rydyn ni am fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr oherwydd fod bod yn rhan o’r corff llywodraethu rhyngwladol hwnnw yn golygu y gallwn ni ddod â chriced rhyngwladol i Gymru, a chynnal tîm proffesiynol yng Nghymru, sef Morgannwg.”
Yn ogystal, mae’n dweud bod criced yng Nghymru’n derbyn cryn dipyn o arian o gynlluniau nad ydyn nhw ar gael ond trwy Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.
“Er enghraifft, mae gyda ni All Stars Cricket, criced i fenywod a merched, a ffrwd sylweddol o arian sy’n cefnogi’r gamp ar lawr gwlad yng Nghymru.
“Pe baen ni’n atal hynny, bydden ni ar y droed ôl o safbwynt criced yng Nghymru, ar lawr gwlad ac ar lefel broffesiynol.
“Dw i’n gwybod fod y stori hon yn codi ei phen o dro i dro, ond rydyn ni’n gorff llywodraethu unigryw, lle mae Cymru a Lloegr yn chwarae fel un, a dw i’n gwybod fod pobol fel Robert Croft wedi cyfeirio at Loegr yn y gorffennol fel chwarae i’r Llewod, ac felly hefyd rydyn ni’n ei gweld hi.”