Mae chwaraewyr pêl-droed Abertawe’n teithio i Sbaen heddiw (dydd Sul, Mehefin 30) er mwyn paratoi ar gyfer y tymor newydd.

Byddan nhw’n treulio wythnos yno’n ymarfer, cyn herio Mansfield ym Mhortiwgal ar Orffennaf 6.

Fe fydd yn gyfle i Steve Cooper, y rheolwr newydd, ddod i adnabod ei chwaraewyr.

Yn ymuno â’r rheolwr newydd ar ei dîm hyfforddi mae Mike Marsh, ei gynorthwyydd, yr hyfforddwr gôl-geidwaid Martyn Margetson a’r hyfforddwr ffitrwydd David Tivey.

Roedd Martyn Margetson yn aelod o dîm hyfforddi Chris Coleman pan gyrhaeddodd Cymru rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

Ymhlith y garfan mae nifer o wynebau ifanc o’r tîm dan 23, gan gynnwys Ben Cabango, Brandon Cooper, Jordan Garrick a Liam Cullen.