Mae Morgannwg wedi cipio buddugoliaeth o bedair wiced dros Swydd Gaerloyw ym Mryste i gynnal eu record 100% yn y Bencampwriaeth a’u codi i frig yr ail adran.
Roedden nhw’n cwrso 188 mewn 49 o belawdau am y fuddugoliaeth.
Sgoriodd Marnus Labuschagne 82 wrth i Forgannwg ennill gyda 6.5 pelawd yn weddill o’r ornest.
Mae’n cryfhau gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf, gyda thri tîm yn codi o’r ail adran ar ddiwedd y tymor hwn.
Bydd yn golygu bod deg tîm yn yr adran gynta’r tymor nesaf, ac wyth yn yr ail, yn hytrach nag i’r gwrthwyneb yn ôl y drefn bresennol.
Batio siomedig gan y Saeson
Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 41 am ddwy yn eu hail fatiad, collodd Swydd Gaerloyw yr wyth wiced olaf am 120 wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 161.
Roedden nhw’n 131 am bump erbyn amser cinio, ar ôl i Michael Hogan, Dan Douthwaite a David Lloyd gipio wiced yr un.
Cafodd Gareth Roderick ei ddal yn y slip wrth chwarae ergyd amddiffynnol i gyfeiriad Nick Selman am 20, a’r sgôr erbyn hynny’n 64 am dair.
Cwympodd y bedwaredd wiced ar 95, pan gafodd James Bracey ei daro ar ei goes gan Dan Douthwaite am 33, a’r bumed pan darodd y capten David Lloyd goes Jack Taylor o flaen y wiced am 16.
Ond fe allen nhw fod wedi cipio wiced arall pe bai’r capten wedi dal ei afael ar y bêl yn y slip i waredu Benny Howell oddi ar fowlio Marchant de Lange cyn cinio.
Pum wiced am 16 rhediad
Cwympodd pum wiced ola’r batiad am 16 o rediadau mewn 10.2 o belawdau.
Daeth cyfle’r capten unwaith eto wrth iddo ddal ei afael i waredu Ryan Higgins am chwech oddi ar fowlio Michael Hogan, a’r sgôr yn 145 am chwech, a’r bowliwr wedi cipio’i bedwaredd wiced am 22 rhediad.
Cafodd Benny Howell ei fowlio gan Michael Hogan am 33, cyn i Forgannwg droi at y bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg, a gipiodd ddwy wiced i waredu David Payne a Josh Shaw, y naill wedi’i ddal gan y wicedwr Tom Cullen a’r llall gan Marnus Labuschagne.
Erbyn hynny, roedden nhw’n 159 am naw, ac fe gwympodd y wiced olaf ar 161 pan gafodd Graeme van Buuren ei ddal gan Tom Cullen oddi ar fowlio Marchant de Lange am naw.
Morgannwg yn cwrso
4.1 o belawdau’n unig gymerodd hi i Swydd Gaerloyw gipio wiced Morgannwg, wrth i Nick Selman gael ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Jack Taylor am chwech.
Ond fe oroesodd Charlie Hemphrey a Marnus Labuschagne weddill y sesiwn wrth orffen ar 56 am un, 132 o rediadau’n brin o’r nod, erbyn amser te.
Cwympodd yr ail wiced ar 68, wrth i Charlie Hemphrey gael ei ddal yn isel gan Chris Dent oddi ar fowlio Josh Shaw am 15, a’i bartneriaeth o 62 gyda Marnus Labuschagne yn dod i ben.
Cyrhaeddodd Marnus Labuschagne ei hanner canred oddi ar 61 o belenni ar ôl taro saith pedwar. Dyma’i bedwerydd hanner canred i’r sir, i fynd gyda thri chanred.
Cafodd David Lloyd ei fowlio wedyn oddi ar ymyl ei fat gan Matt Taylor am wyth, a’r sgôr yn 85 am dair.
Roedd Billy Root ar 29 pan gafodd ei ollwng gan Matt Taylor yn fuan ar ôl i’w bartneriaeth gyda Marnus Labuschagne fynd y tu hwnt i 50, ond fe gafodd ei ddal gan Chris Dent yn y pen draw oddi ar fowlio Josh Shaw am 31.
Ac fe gafodd Marnus Labuschagne ei ddal gan Gareth Roderick oddi ar fowlio David Payne am 82, ar ôl taro deg pedwar oddi ar 98 o belenni, a’r sgôr yn 153 am bump.
Cwympodd y chweched wiced ar 179 pan yrrodd Dan Douthwaite, ar 14, at Graeme van Buuren yn yr ochr agored wrth fynd am ergyd fawr oddi ar fowlio Josh Shaw.
Ond daeth y fuddugoliaeth am 6.10 i godi Morgannwg i frig y tabl.
Gweddill y gêm
Ar ôl penderfynu bowlio’n gyntaf, cafodd bowlwyr Morgannwg ddiwrnod cyntaf anodd yn y maes wrth i Swydd Gaerloyw sgorio 313 yn eu batiad cyntaf.
Sgoriodd y capten Chris Dent 105 wrth agor y batio, a sgoriodd ei bartner 61 wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 127 am y wiced gyntaf.
Cipiodd Michael Hogan a Graham Wagg dair wiced yr un yn y batiad.
Wrth ymateb, sgoriodd Morgannwg 287 yn eu batiad cyntaf nhw, gyda Nick Selman yn sgorio 73 a Marnus Labuschagne 65.
Roedd tair wiced yr un yn y batiad i David Payne, Ryan Higgins a Josh Shaw.
Ac er bod yr ornest yn edrych yn debygol o orffen yn gyfartal am gyfnodau hir, rhoddodd batwyr Swydd Gaerloyw lygedyn o obaith i Forgannwg ennill yn y pen draw.