Collodd Morgannwg chwe wiced olaf eu batiad cyntaf am 100 o rediadau ar drydydd diwrnod y gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 287.
Bydd Swydd Gaerloyw’n dechrau’r diwrnod olaf ar 41 am ddwy yn eu hail fatiad, sy’n golygu bod ganddyn nhw flaenoriaeth o 67, ar ôl sgorio 313 yn eu batiad cyntaf.
Cael a chael fydd hi wrth i’r sir Gymreig geisio amddiffyn eu record 100% mewn gemau pedwar diwrnod y tymor hwn.
Wicedi cynnar i Swydd Gaerloyw
Ar ôl colli bore cyfan oherwydd y glaw dros nos, cafodd y chwaraewyr ginio cynnar am 12.30yp, ac fe ddechreuodd y trydydd diwrnod am 2 o’r gloch.
Cipiodd Morgannwg eu pwynt batio cyntaf wrth gyrraedd 200 am bedair yn fuan wedyn, wrth i Owen Morgan ymuno â Marnus Labuschagne ar ôl i Billy Root golli ei wiced oddi ar belen ola’r ail ddiwrnod.
Ar ôl ail ddiwrnod rhwystredig, cipiodd y bowliwr cyflym llaw chwith, David Payne, ddwy wiced mewn pedair pelen.
Daeth ei wiced gyntaf wrth i’r wicedwr Gareth Roderick ddal Marnus Labuschagne am 65 a thair pelen yn ddiweddarach, cafodd Owen Morgan ei ddal gan Miles Hammond yn y slip am bump, wrth i Forgannwg lithro i 204 am chwech.
Cwympodd seithfed wiced Morgannwg ar 215, pan gafodd Tom Cullen ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan James Bracey oddi ar fowlio Josh Shaw am saith.
Ar ôl gorffen sesiwn y prynhawn ar 247 am saith, cipiodd Morgannwg ail bwynt batio cyn i Ryan Higgins daro Dan Douthwaite ar ei goes o flaen y wiced am 23, a’r sgôr yn 264 am wyth.
Roedden nhw’n 287 am naw pan gafodd Marchant de Lange ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick, ac yn 287 i gyd allan pan gafodd Graham Wagg ei ddal gan David Payne yn safle’r trydydd dyn oddi ar fowlio Ryan Higgins am 33.
Roedd yn golygu bod gan Swydd Gaerloyw fantais o 26 rhediad ar ddiwedd y batiad cyntaf, ar ôl i Forgannwg golli chwe wiced am 100 o rediadau.
Yr ail fatiad
Dechreuodd Swydd Gaerloyw eu hail fatiad yn y modd gwaethaf posib, wrth i’r capten Chris Dent gael ei ddal yn y slip gan David Lloyd, capten Morgannwg, oddi ar fowlio Michael Hogan am ddau ar ôl 3.4 pelawd.
Ac roedden nhw’n 35 am ddwy wrth i Dan Douthwaite fowlio Miles Hammond am 21, ond daeth y chwaraewyr oddi ar y cae yn fuan wedyn oherwydd golau gwael, a’r sgôr yn 41 am ddwy.