Mae Mark Frost, sy’n gweithio i Glwb Criced Morgannwg a chorff Criced Cymru, yn dweud bod cynnal Cwpan y Byd yng Nghaerdydd wedi bod yn gyfle i roi criced ar y map yng Nghymru, ac i ddenu mwy o bobol ifanc i chwarae a gwylio’r gêm.
Cafodd pedair gêm eu cynnal yng Ngerddi Sophia, gyda nifer o ddigwyddiadau cysylltiedig yn cael eu cynnal yn y stadiwm ac o gwmpas y brifddinas – o daith y bêl drwy’r ddinas i gystadlaethau criced i blant.
“Tra bod rhai yn herio gwerth digwyddiadau mawr fel hyn, fe wnaethon ni ei ddefnyddio fel cyfle i ymgysylltu â phobol,” meddai wrth golwg360.
Ymhlith y digwyddiadau a gafodd eu cynnal yng Nghaerdydd a thu hwnt roedd taith y tlws, lle mae’n dweud bod 3,000 o bobol wedi ymgynnull yn y brifddinas.
Ond roedd yn gyfle hefyd i fynd i ardaloedd lle nad yw criced yn cael ei chwarae’n rheolaidd.
“Fe gawson ni ein hunain ar draeth Porthcawl fel rhan o un digwyddiad a gafodd ei drefnu gan Glwb Criced Porthcawl, ac mae digwyddiadau fel yr un hwnnw’n dangos sut i roi criced ar y map, gyda phostiadau Instagram yn cael eu hoffi gan 42,000 i 92,000 o bobol.”
Taith y bêl
Digwyddiad arall a gafodd ei gynnal oedd ‘Y Tafliad Mawr’, sef ras gyfnewid wrth i gannoedd o bobol gymryd rhan wrth daflu pêl i’w gilydd yr holl ffordd o Orsaf Caerdydd Canolog i stadiwm Gerddi Sophia.
“Fe gyrhaeddodd y bêl yr orsaf cyn mynd i’r Bae, trwy Faes Eisteddfod yr Urdd ac i mewn i’r dref, heibio’r castell, trwy’r parc ac i mewn i’r stadiwm ar gyfer dathliad mawr.
“Roedd yna gyffro wrth wylio Marchant de Lange [bowliwr cyflym Morgannwg] yn rhoi cynnig ar dafliad anodd dros yr afon at Tom Cullen i’w dal hi – a bu’n rhaid i Tom Cullen symud modfeddi’n unig i’w dal hi!”
Denu chwaraewyr a gwylwyr ifainc
Fel rhan o waddol Cwpan y Byd, mae hyd at 2,000 o setiau bat a phêl wedi cael eu rhoi i blant yng Nghaerdydd.
Yn ogystal, cafodd 3,000 o blant y cyfle i wylio gêm Sri Lanca yn erbyn Affganistan, ac fe gafodd Mims Davies, Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Prydain, wahoddiad i ymweld â phrosiect cymunedol yn Grangetown.
“Aethon ni â hi oddi ar y trên yn syth i Grangetown at Ali Abdi, sy’n gyfrifol am ein gwaith mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, lle’r oedd sesiwn i 50 o blant o’r gymuned honno.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n mynd â chriced i lefydd lle nad yw criced yn cael ei chwarae.
“Mae gyda ni brosiect arall yng Nghwm Rhondda ac Abercynon, un arall yn Llanrhymni ac un arall yn Grangetown, lle nad oes fawr o glybiau na phlant sydd eisiau chwarae’r gêm. Dyna un o’n heriau ni at y dyfodol.”
Dim criced ar deledu daearol
Dim ond ar deledu lloeren y caiff gemau Cwpan y Byd eu dangos, ac mae hynny’n her arall wrth geisio tyfu’r gêm yng Nghymru, meddai.
“Dydy criced ddim mor weladwy ag y dylai fod am nad yw ond ar gael ar deledu lloeren, felly ein her ni yw cynnal diddordeb a brwdfrydedd plant.
“Y flwyddyn nesaf, fydd Cwpan y Byd ddim gyda ni ond yr hyn fydd gyda ni yw’r Hundred, sef cystadleuaeth newydd, ac rydyn ni’n ffodus iawn fod Morgannwg yn un o’r lleoliadau i ddynion a merched.
“Gobeithio y bydd hwnnw’n llwyfan arall ar gyfer criced fel y bu Cwpan y Byd.”