Fe wnaeth De Affrica guro Affganistan o naw wiced trwy ddull DLS yng Nghwpan Criced y Byd yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 15).
Hon oedd y gêm olaf i’w chynnal yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth eleni.
Cipiodd y troellwr coes Imran Tahir bedair wiced am 29, ac roedd yna dair wiced am 13 i Chris Morris wrth i Affganistan gael eu bowlio allan am 125.
Ar ôl i’r ornest gael ei chwtogi i 48 pelawd yr un yn sgil y glaw, cafodd nod De Affrica ei haddasu i 127, ac fe gyrhaeddon nhw honno mewn … o belawdau.
Sgoriodd Quinton de Kock 68 a Hashim Amla 41 heb fod allan wrth helpu eu tîm i gyrraedd y nod oddi ar 28.4 pelawd.
Dechrau cadarn cyn y glaw
Ar ôl galw’n gywir, fe wnaeth De Affrica wahodd Affganistan i fatio, ond dim ond 5.5 pelawd oedd yn bosib cyn i’r glaw ddod, a’r sgôr yn 33 heb golli wiced, wrth i Kagiso Rabada a Beuran Hendricks gael eu clatsio’n gynnar.
Ar ôl toriad o 26 munud, De Affrica oedd yn edrych yn fwy cystadleuol, ac fe lwyddon nhw i dorri’r bartneriaeth.
Cipiodd Rassie van der Dussen ddaliad gwych ar y ffin sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Kagiso Rabada i waredu Hazratullah Zazai am 22, a’r sgôr yn 43 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio.
Yn dilyn adolygiad, cafodd Rahmat Shah ei roi allan ar ôl i Chris Morris daro’i goes o flaen y wiced am chwech, a’r sgôr yn 56 am ddwy ar ddechrau’r unfed belawd ar bymtheg, ar ôl i’w dîm groesi’r hanner cant yn niwedd y bymthegfed pelawd.
Ar ôl colli awr a deg munud a’r ornest bellach yn 48 pelawd yr un, fe ddaeth y drefn DLS i rym, oedd yn golygu y byddai’n rhaid i Dde Affrica gwrso dau rediad yn fwy na sgôr terfynol Affganistan.
Affganistan yn ymffrwydro
Gwnaeth y toriad gryn les i Dde Affrica, wrth iddyn nhw gipio pedair wiced o fewn deg pelen am un rhediad.
Bedair pelen ar ôl y toriad, cafodd Hashmatullah Shahidi ei ddal yn y slip gan Faf du Plessis oddi ar fowlio Andile Phehlukwayo am wyth, cyn i’r troellwr coes Imran Tahir fowlio Noor Ali Zadran a dal Afghan Asghar oddi ar ei fowlio’i hun, wrth i Affganistan lithro i 70 am bump.
Ac roedden nhw’n 70 am chwech pan gafodd Mohammad Nabi ei fowlio gan Andile Phehlukwayo yn y belawd ganlynol eto.
Roedden nhw’n 77 am saith pan gipiodd Aiden Markram chwip o ddaliad yn agos ar ochr y goes i waredu’r capten Gulbadin Naib yn y chweched pelawd ar hugain, a phum wiced wedi cwympo o fewn pum pelawd.
Ymdrech lew yn ofer
Daeth Rashid Khan i’r llain yn llawn penderfyniad, ac fe helpodd ei dîm i gyrraedd 100 yn y nawfed pelawd ar hugain, ond roedd gobeithion Affganistan o osod nod swmpus wedi hen bylu.
Cwympodd yr wythfed wiced ar 111 pan gafodd Ikram Ali Khil ei ddal yn y slip gan Hashim Amla oddi ar fowlio Chris Morris am naw.
A daeth batiad arwrol Rashid Khan i ben ar 35, pan gafodd ei ddal gan Rassie van der Dussen wrth dynnu tuag ochr y goes oddi ar fowlio Imran Tahir, a gipiodd ei bedwaredd wiced, a’r sgôr yn 125 am naw.
Daeth y batiad i ben pan darodd Hamid Hassan ergyd i’r awyr a chael ei ddal gan Faf du Plessis oddi ar fowlio Chris Morris, a’i dîm i gyd allan am 125, gan osod nod o 127 i Dde Affrica drwy ddull DLS.
Pwyll piau hi
Gellid fod wedi disgwyl i Dde Affrica glatsio o’r dechrau’n deg er mwyn gwella ar eu cyfradd sgorio yn y gystadleuaeth.
Ond pwyll piau hi yn y pelawdau agoriadol, wrth i Hashim Amla a Quinton de Kock chwarae’n amddifynnol ar y cyfan.
Cyrhaeddodd Quinton de Kock ei hanner canred oddi ar 56 o belenni yn y deunawfed pelawd, ac erbyn hynny dim ond 48 o rediadau oedd eu hangen ar Dde Affrica i ennill.
Daeth y bartneriaeth o 104 i ben pan gafodd Quinton de Kock ei ddal ar yr ochr agored gan Mohammad Nabi oddi ar fowlio Gulbadin Naib am 68, ond fe gyrhaeddon nhw’r nod yn gyfforddus, wrth i Andile Phehlukwayo daro chwech cynta’r gêm i’w hennill