Mae gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Derby ar gae San Helen yn Abertawe wedi gorffen yn gyfartal.
Erbyn i’r gêm ddod i ben, roedd Morgannwg yn 184 am ddwy yn eu hail fatiad, sef trydydd batiad y gêm, a doedd dim cyfle i Swydd Derby fod mewn sefyllfa i gwrso, ar ôl iddyn nhw gau’r batiad cyntaf yn rhy hwyr o lawer.
Mae’n golygu bod Morgannwg yn cadw eu record ddi-guro yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac yn parhau i obeithio am ddyrchafiad.
Stori’r prynhawn
Am y trydydd diwrnod allan o bedwar, doedd dim criced cyn cinio.
Ar ôl colli sesiwn gyfan, manteisiodd Morgannwg ar yr amodau’n gynnar, wrth i Lukas Carey daro coes y capten Billy Godleman o flaen y wiced am 227.
Roedd Harvey Hosein yn 91 heb fod allan pan benderfynodd ei gapten gau’r batiad ar 598 am bump, blaenoriaeth o 204, ac ychydig iawn o obaith o weld y naill dîm na’r llall yn ennill y gêm.
Dyma bumed cyfanswm uchaf Swydd Derby erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.
Ail fatiad Morgannwg
Roedd Morgannwg ar ei hôl hi o 110 ar ddiwedd y batiad cyntaf, ac roedden nhw dan bwysau ychwanegol wrth golli wiced mor gynnar yn yr ail fatiad.
Cafodd Charlie Hemphrey ei fowlio gan Ravi Rampaul, a Morgannwg yn 30 am un.
Erbyn amser te, roedden nhw’n 74 am un, a Nick Selman heb fod allan ar 42, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred yn y sesiwn olaf oddi ar 56 o belenni, ar ôl taro naw pedwar.
Cyrhaeddodd Marnus Labuschagne ei hanner canred oddi ar 51 o belenni, ar ôl taro wyth pedwar ac un chwech, ar ôl iddo fe a Nick Selman adeiladu partneriaeth o fwy na chant yn yr ail fatiad am y trydydd tro y tymor hwn.
Chafodd e na Nick Selman fawr o drafferthion yn erbyn bowlio dof yr ymwelwyr ar lain sydd wedi cynnig ychydig iawn o gymorth i’r bowlwyr drwyddi draw.
Daeth y bartneriaeth o 142 i ben ar ôl 29.1 pelawd pan gafodd Marnus Labuschagne ei stympio gan Harvey Hosein oddi ar fowlio Alex Hughes am 83, a’r sgôr yn 172 am ddwy.
Mae’n golygu mai Marnus Labuschagne yw prif sgoriwr yr ail adran erbyn hyn, gyda chyfanswm o 653 o rediadau, ac mae’n gobeithio o hyd am le yng ngharfan Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw ar ddiwedd yr haf.
Erbyn diwedd y batiad a’r ornest, roedd Nick Selman heb fod allan ar 70.
Gweddill y gêm
Sgoriodd Morgannwg 394 yn eu batiad cyntaf, ar ôl i Graham Wagg eu hachub gyda 100 wedi i Swydd Derby benderfynu bowlio.
Roedden nhw’n 215 am saith pan ddaeth e i’r llain, ond fe aethon nhw yn eu blaenau i sgorio 394, gyda Tony Palladino a Luis Reece yn cipio tair wiced yr un.
598 am bump oedd sgôr Swydd Derby yn eu batiad cyntaf, ac fe allai capteniaeth fwy craff gan Billy Godleman ar y trydydd diwrnod a’r diwrnod olaf fod wedi gosod ei dîm mewn sefyllfa i roi Morgannwg dan bwysau ar ôl i’r fuddugoliaeth lithro o’u gafael.
Ond bydd Morgannwg yn mynd â naw pwynt o’r gêm er mwyn aros yn ail yn yr ail adran.