Fe fydd tîm criced Morgannwg yn mynd am fuddugoliaeth yn erbyn Swydd Northampton yn Northampton heddiw, ar ôl i law ar y trydydd diwrnod godi gobeithion y Saeson o achub y gêm.
Bydd y tîm cartre’n dechrau’r diwrnod olaf ar 68 heb golli wiced, ond mae angen 270 yn rhagor arnyn nhw i orfodi Morgannwg i fatio am yr ail waith.
Dim ond un sesiwn, a 18 pelawd, oedd yn bosib ddoe cyn i’r glaw ddod.
Sgoriodd Ben Curran 48 cyn i’r chwaraewyr orfod gadael y cae, ac fe oroesodd Ricardo Vasconcelos sawl apêl am ei wiced i gyrraedd 18 heb fod allan.
Batio cryf gan Forgannwg
Yn gynharach yn y dydd, roedd Timm van der Gugten a Michael Hogan (54) wedi sgorio 95 am y wiced olaf, ar ôl i Forgannwg ddechrau ar 452 am naw.
Tarodd Michael Hogan ddwy ergyd am chwech wrth iddo sgorio ei ail hanner canred mewn gêm dosbarth cyntaf, a hynny oddi ar 44 o belenni
Sgoriodd Timm van der Gugten 30 oddi ar 26 o belenni wrth i Forgannwg weithio tuag at y fuddugoliaeth.